Mae mwy o dor-cyfraith wedi bod yng nghefn gwlad yn ystod y pandemig wrth i fwy o bobol ymweld â Chymru.

Yn ôl elusen Taclo’r Tacle, mae gangiau troseddol yn manteisio ar fywyd gwyllt, yr amgylchedd a chymunedau mewn sawl ffordd, sy’n golygu bod trigolion yn dioddef yn emosiynol ac yn ariannol.

Fe gawson nhw 2,700 o adroddiadau dienw am droseddau cefn gwlad yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill, sy’n gynnydd o 14% ar y flwyddyn flaenorol, ac mae’n debyg nad yw’r ffigwr yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfan gan fod llawer yn aros yn ddistaw.

Roedd yr elusen yn adrodd am droseddwyr penodol a oedd yn hela’n anghyfreithlon, yn taflu a llosgi ysbwriel ac yn dwyn peirianwaith ffermio.

Mae NFU Mutual yn amcangyfrif fod dwyn yng nghefn gwlad wedi costio £1.6m i Gymru yn 2020, a £43.3m drwyddi draw yng ngwledydd Prydain.

Apêl am wybodaeth

Mae Taclo’r Tacle wedi lansio apêl ar i bobol gyflwyno gwybodaeth yn ddienw er mwyn mynd i’r afael â’r troseddau hyn.

“Mae ein helusen yn gwybod pa mor niweidiol y gall troseddau cefn gwlad fod: i gymunedau lleol, i fusnesau gwledig, i ffermwyr, bywyd gwyllt a’r amgylchedd,” meddai Hayley Fry, Rheolwr Taclo’r Tacle yng Nghymru.

“Bob dydd, rydyn ni’n clywed gan bobl sydd yn ymwybodol o’r rhai sy’n ymwneud â niweidio cefn gwlad Cymru, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud.

“Trwy ddweud wrthym yn ddienw yr hyn rydych chi’n ei wybod, gall eich gwybodaeth helpu i wneud byd o wahaniaeth.

“Mae tîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn ein Canolfan Gyswllt yn cadw’r holl wybodaeth sy’n cael ei derbyn yn gyfrinachol – er mwyn sicrhau nad yw’r unigolyn sy’n rhoi’r manylion fyth yn cael ei nodi – cyn ei drosglwyddo i’r heddlu i ymchwilio.

“Gall eich llais wirioneddol wneud gwahaniaeth. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i amddiffyn ein cefn gwlad gwerthfawr a’n hamgylchedd gwledig, ein cymunedau a’n busnesau rhag y niwed sy’n cael ei achosi gan y gangiau troseddol hyn.”