Bydd hyd at 30 o staff newydd yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Ambiwlans ym Mhowys erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd manylion y newidiadau i’r ffordd maen nhw’n gwasanaethu’r sir yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr sir Powys yn yr hydref.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod rhwng dirprwyaeth o gynghorwyr Powys a Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar ôl i gynghorwyr wyntyllu eu pryderon yn ystod yr wythnosau diwethaf am doriadau posibl i’r Gwasanaeth Ambiwlans ym Mhowys.

Cafodd y cynnig a gafodd ei gyflwyno gan gynghorwyr Plaid Cymru mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf, i weld Gorsafoedd Ambiwlansys yn cael eu diogelu a mwy o Ambiwlansys yn patrolio Powys, ei gefnogi gan y rhan fwyaf o’r cynghorwyr.

‘Cadarnhaol’

“Cynhaliais gyfarfod cadarnhaol iawn gydag aelodau Cyngor Sir Powys i fynd i’r afael â’u pryderon ac yn sgil y cyfarfod hwn byddwn yn cymryd ystod o gamau gweithredu i’n timau weithio arnynt – gan gynnwys ystyried darparu gofal yn nes at adref lle bo hynny’n briodol,” meddai Jason Killens.

“Rydym ar ddechrau adolygiad cenedlaethol cymhleth y mae’n rhaid ei gynnal gyda’n staff yn lleol a hefyd partneriaid undebau llafur.

“Gan fod yr adolygiad hwn yn waith sy’n mynd rhagddo, mae’n dal yn rhy gynnar i roi sylwadau ar union lefel y gwasanaeth ambiwlans brys a fydd yn cael ei gyflwyno.

“Ond gyda 263 o swyddi gwasanaeth meddygol brys llawn amser newydd yn cael eu hariannu, rydym wedi bod yn recriwtio ledled Cymru dros y 18 mis diwethaf a bydd Powys yn gweld 30 o staff newydd erbyn mis Mawrth 2022.”