Mae pob aelod o bwyllgor canolog YesCymru wedi camu o’r neilltu, yn dilyn wythnosau o ffraeo am gyfeiriad a dyfodol y mudiad annibyniaeth.
Mewn datganiad, sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan y mudiad, dywed y pwyllgor canolog nad “ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad, ond er budd y sefydliad”.
Maen nhw’n dweud bod yr “aflonyddu a ddioddefodd aelodau’r pwyllgor canolog, sydd wedi ymestyn y tu hwnt i’r cyfryngau cymdeithasol, wedi effeithio’n sylweddol ar eu lles meddyliol, cymaint fel nad oedd modd ei oddef mwyach”.
Yn sgil y penderfyniad, mae disgwyl i bwyllgor canolog newydd gael ei ethol yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol “sydd ar ddod”.
Yn y cyfamser, mae cwmni o gyfrifwyr trydydd parti annibynnol wedi cael cyfarwyddyd gan yr aelodau hynny sy’n gadael “i oruchwylio nifer cyfyngedig o weithrediadau y sefydliad o ddydd i ddydd”, ac ymhlith y rheiny mae cyfrifoldeb am gyllid a materion busnes.
Mudiad sydd wedi tyfu
Ers dechrau’r cyfnod clo, mae nifer aelodau’r mudiad wedi tyfu’n sylweddol i 18,000 o aelodau a hynny bum mlynedd ar ôl ei lansio’ swyddogol.
Yn ôl Sarah Rees, fu’n gadeirydd dros dro ar y mudiad ers i Siôn Jobbins gamu o’r neilltu’n ddiweddar, “mae’n stori lwyddiant wych, ac yn dyst i waith caled aelodau cyffredin sydd wedi cynyddu’r galw a’r diddordeb mewn annibyniaeth Cymru”.
Ond mae’n dweud bod camu o’r neilltu fel pwyllgor canolog “yn rhoi cyfle i’r pwyllgor canolog newydd, gyda chefnogaeth pob un o’r 18,000 o aelodau, fynd â YesCymru ymhellach”.
“Bydd y cwmni o gyfrifwyr yn canolbwyntio ar helpu’r Gweithgor a staff YesCymru i drefnu’r EGM sydd ar ddod ac ethol Pwyllgor Canolog newydd,” meddai.
“Gwnaed y penderfyniad hwn er budd y sefydliad a’i aelodau. Mae’n gyfle i bawb gefnu ar y gorffennol ac yn rhoi dechrau newydd i’r Pwyllgor Canolog fydd yn cael ei ethol yn yr hydref, tra yn amddiffyn yr holl bethau da sydd wedi’u creu. ”
“Bellach mae gan YesCymru 18,000 o aelodau. Dim ond bum mlynedd yn ôl y lansiodd yn swyddogol.
“Mae’n stori lwyddiant wych, ac yn dyst i waith caled aelodau cyffredin sydd wedi cynyddu’r galw a’r diddordeb mewn annibyniaeth Cymru.
“Mae’r penderfyniad heddiw yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Canolog newydd, gyda chefnogaeth pob un o’r 18,000 o aelodau, fynd â YesCymru ymhellach.”
‘Cyfle i lywio cyfeiriad YesCymru er gwell’
Dywed Sarah Rees ymhellach fod ethol pwyllgor canolog newydd yn “gyfle i [aelodau] lywio cyfeiriad Yes Cymru er gwell”.
“Byddwn i’n eich annog chi i gyd sy’n aelodau i fynychu’r EGM ac i bleidleisio dros Bwyllgor Canolog newydd sy’n adlewyrchu’r math o fudiad rydych chi am fod yn rhan ohono – dyma’ch cyfle i lywio cyfeiriad YesCymru er gwell, a dymunwn bob llwyddiant i’r Pwyllgor Canolog newydd.”
Mae’n dweud na fydd y mudiad “yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd”.