Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth bachgen dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi ei enw.

Mae dynes 31 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio Reid Steele.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd nos Fercher ar ôl cael ei ganfod mewn eiddo ar ystad Broadlands yn y dref nos Fercher (Awst 11), ond bu farw’r diwrnod canlynol (dydd Iau, Awst 12).

Yn ôl ei deulu, roedd Reid Steele yn “fachgen bach hapus iawn, iawn, hyfryd, rhyfeddol a galluog oedd yn goleuo bywydau pawb”.

“Roedd e wrth ei fodd yn yr ardd ac ar y traeth, yn casglu mafon ac yn mynd i gerdded i gasglu cregyn,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd e’n fachgen bach siaradus ac fe fyddai’n hapus iawn yn siarad ag unrhyw un.”

Ymchwiliad

Mae Heddlu’r De yn trin ei farwolaeth fel achos o lofruddio, ac mae’r ddynes 31 oed a gafodd ei harestio wedi’i throsglwyddo i ofal y gwasanaethau iechyd yn unol â’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae hi ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Yn ôl yr heddlu, mae’r achos yn un “trist a thrasig iawn”, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cefnogi’r teulu.

Maen nhw’n annog y cyhoedd i beidio â damcaniaethu a thrafod ar y cyfryngau cymdeithasol beth sydd wedi digwydd.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.