Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i adeiladu safle glampio moethus newydd mewn pentref yn Sir y Fflint.
Cafodd cais ei gyflwyno ar gyfer wyth pod glampio pren ar Fferm Top Pen-y-Parc, Pant y Gof, ger Helygain.
Mae hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer mannau pweru cerbydau trydan, derbynfa a storio beiciau.
Mewn datganiad cynllunio a gyflwynwyd i Gyngor Sir y Fflint, dywedodd y cynllunwyr:
“Bydd y podiau’n cynnig llety cyfoes i ymwelwyr sydd o fewn pellter teithio addas o Gaer, Fflint a’r Wyddgrug gan felly fod yn addas ar gyfer penwythnos a gwyliau byr a thu hwnt ar draws y wlad.
“Mae’r safle wedi’i leoli’n dda i ganiatáu i feddianwyr fwynhau’r asedau twristiaeth cyfagos, sy’n cynnwys y rhwydwaith helaeth o lwybrau beicio mynydd a theithiau cerdded yn ardaloedd Sir y Fflint.
“Mae gweithredwr y safle am i’r safle hwn fod ymhlith y gorau sydd ar gael yn yr ardal.”
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y cynigion gan y cyngor sir yn y man.