Mae’r Taliban wedi cipio tair prifddinas daleithiol arall yn ne Affganistan wrth i’r grŵp barhau ag ymgyrch filwrol sydyn sy’n amgylchynu’r brifddinas yn raddol.

Cafodd prifddinas talaith Helmand ei chipio ar ôl blynyddoedd o frwydro gan filwyr Prydain, Nato a’r Unol Daleithiau, a chafodd cannoedd o filwyr eu lladd yno yn ystod y rhyfel.

Yn y dyddiau diwethaf, mae’r Taliban wedi cymryd rheolaeth dros fwy na dwsin o brifddinasoedd taleithiol Affganistan, ac maen nhw’n rheoli dros ddau draean o’r wlad erbyn hyn.

Daw hyn wythnosau cyn y mae milwyr yr Unol Daleithiau i fod i adael y wlad, ac mae 600 o filwyr y Deyrnas Unedig wedi cael eu hanfon yno er mwyn helpu Prydeinwyr i adael.

Fe wnaeth pennaeth cyngor taleithiol Helmand gadarnhau fod y Taliban wedi cipio’r brifddinas Lashkar Gah ar ôl brwydro dwys. Dywedodd fod y tri gwersyll milwrol tu allan i Lashkar Gah dal dan reolaeth y llywodraeth.

Mae prifddinas talaith Zabul wedi’i chymryd gan y Taliban hefyd, yn ogystal â phrifddinas talaith Uruzgan.

Ychydig oriau yn gynharach, fe wnaeth y Taliban gymryd dwy o ddinasoedd mwyaf Affganistan, oni bai am y brifddinas Kabul, Kandahar a Herat.

Kabul

Dydi Kabul ddim dan fygythiad uniongyrchol ar y funud, ond mae’r brwydrau a’r colledion mewn rhannau o’r eraill yn golygu fod y Taliban yn cryfhau eu gafael.

Mae miloedd o Affganiaid wedi dianc o’u cartrefi yn sgil ofnau y bydd y Taliban yn sefydlu llywodraeth greulon a gormesol, ac mae’r trafodaethau heddwch yn Qatar wedi’u hoedi er bod diplomyddion yn dal i gyfarfod.

Awgryma asesiadau gan wasanaeth gwybodaeth byddin yr Unol Daleithiau y gallai Kabul ddod dan bwysau o fewn y 30 diwrnod nesaf, ac os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, gallai’r Taliban gipio rheolaeth dros y wlad o fewn ychydig fisoedd.

Mae’r brwydro’n parhau mewn taleithiau eraill, sc efallai y bydd rhaid i lywodraeth Affganistan ganolbwyntio ar amddiffyn Kabul ac ychydig o ddinasoedd eraill dros y dyddiau nesaf os yw’r Taliban yn parhau â’r un momentwm.