Mae nifer y troseddau gyda dryllau ym Mhrydain ymysg yr isaf yn y byd, yn ôl asiantaeth heddlu.

Daw’r sylwadau wedi i chwech o bobol farw mewn achos o saethu yn Plymouth.

Mae cyfreithiau llym y wlad ynglŷn â dryllau yn cael eu cynnig fel rheswm tu ôl i’r nifer cymharol isel o droseddau gyda dryll.

Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol mai llawddryllau yw’r gynnau mwyaf cyffredin i gael eu defnyddio’n anghyfreithlon, a bod arfau cwbl awtomatig yn “brin iawn.”

Mae’r mwyafrif o ymosodiadau gyda dryllau yn cael eu cyflawni gan gangiau sy’n ymwneud â chyffuriau neu ladrata.

Dim ond 30 o lofruddiaethau oedd yn ymwneud â gynnau yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny’n 4% o’r holl lofruddiaethau yn y cyfnod 12 mis hwnnw.

“Mae nifer y rhai sy’n cael eu lladd drwy saethu ar gyfartaledd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 36 y flwyddyn rhwng 2010/11 a 2014/15 i 29 rhwng 2015/16 a 2019/20,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae cyfran y rhai sy’n cael eu lladd gan ddryll wedi amrywio rhwng 4% a 5% dros y pum mlynedd diwethaf.”