Mae cyfraddau Covid-19 yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru yn ôl y data diweddaraf.
Cafodd 1,090 o achosion newydd eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau, 12 Awst, ond mae’n debyg bod hynny’n cwmpasu achosion o ddechrau’r wythnos hefyd.
Roedd y gyfradd yng Nghymru yn 156.1 achos ymhob 100,000 o bobl yn y saith diwrnod hyd at 8 Awst.
Mae amcangyfrif bod un mewn 220 o bobl wedi dal y firws yr wythnos diwethaf.
Mae cyfraddau yn codi yng ngwledydd eraill Prydain, gyda chyfradd Gogledd Iwerddon yn uchaf o bob gwlad ar 475.5 o achosion newydd ymhob 100,000 o bobl.
Rhagweld pedwaredd ton
Yn Lloegr, mae’r gyfradd wedi codi o 282.3 i 301.6 o achosion newydd, tra bod cyfradd yr Alban wedi codi o 143.7 i 156.1.
Mae’r Athro James Naismith, cyfarwyddwr Athrofa Rosalind Franklin, wedi dweud ei fod yn rhagweld pedwaredd ton pan fydd ysgolion yn agor ar ôl yr haf.
“Rwy’n disgwyl gweld cynnydd mewn achosion, a phedwaredd ton,” meddai.
“Dydw i ddim yn gwybod maint unrhyw gynnydd newydd nac yn rhoi llawer o ffydd yn y rhai sy’n honni gyda sicrwydd eu bod yn gwybod.
“Rwy’n gwybod y bydd unrhyw gynnydd sylweddol mewn achosion yn arwain at haint hirach ac yn cynyddu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Y mwyaf o bobl sydd wedi’u brechu, y lleiaf yw unrhyw bedwaredd don.”