Fe wnaeth aelodau Tŷ’r Arglwyddi hawlio mwy na £46,000 ar y diwrnod bu teyrngedau’n cael eu talu i’r diweddar, Dug Caeredin.
Mae’n ymddangos fod 162 o arglwyddi wedi hawlio lwfans dyddiol ar Ebrill 12 eleni, er mai dim ond 65 ohonynt gododd ar eu traed i areithio yn y siambr.
Mae hawl gan arglwyddi i hawlio lwfans o £323 am bob diwrnod y maent yn mynychu Tŷ’r Arglwyddi, neu £162 os ydynt yn cyfrannu dros gyswllt fideo o adref.
Fe wnaeth y teyrngedau bara am fwy na phum awr a hanner i nodi marwolaeth Tywysog Phillip a fu farw yn 99 oed.
“Sgandal”
Mae ymgyrchwyr sy’n pwyso am ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi wedi disgrifio’r sefyllfa fel “sgandal”.
“Dyma’r math o sgandal treuliau sy’n digwydd dro ar ôl tro yn Nhŷ’r Arglwyddi sy’n gorff anetholedig,” meddai Darren Hughes, Pris Weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.
“Er bod llawer o aelodau yno’n gweithio’n galed, mae’n ymddangos bod gormod yn gweld yr Arglwyddi fel ffynhonnell arian barod sy’n erydu ymddiriedaeth yng ngwaith y Senedd gyfan.
“Ar hyn o bryd mae Tŷ’r Arglwyddi yn edrych mwy fel clwb aelodau preifat yn hytrach na’r corff craffu ar ddeddfwriaeth sydd ei angen ar Brydain.”
Dan y drefn bresennol mae hawl gan y Prif Weinidog i apwyntio aelodau i’r Tŷ boed yn gyfoedion, cyd-weithwyr neu bobl adnabyddus yn eu maes.
Fe ychwanegodd Darren Hughes: “Mae’n amser cael Tŷ Uchaf sy’n fwy effeithlon ac sy’n sefyll dros genhedloedd a rhanbarthau’r wlad hon. Ar hyn o bryd, mae pleidleiswyr yn gweld Arglwyddi yn gwneud fawr dim drostynt.”
Mae tua 800 o aelodau yn gymwys i gymryd rhan yng ngwaith Tŷ’r Arglwyddi o gymharu â 650 o Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan SKY News fe ddaeth i’r amlwg fod dau arglwydd hefyd wedi hawlio am y lwfans llawn o £323, er iddyn nhw areithio trwy gyswllt fideo.