Mae’r bwlch rhwng canlyniadau TGAU disgyblion o gefndiroedd tlawd a’r rhai sy’n freintiedig wedi cynyddu, ac un undeb yn dweud wrth golwg360 bod angen cyflogi mwy o athrawon i wella’r sefyllfa.

Yr wythnos hon fe dderbyniodd disgyblion ysgol eu canlyniadau TGAU, gyda’r graddau uchaf wedi cynyddu’n sylweddol ers yr hyn yr oedden nhw cyn Covid-19.

Fe gafodd 52% o ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, raddau rhwng A* ac C.

O gymharu, fe gafodd 79.3% o ddisgyblio0n fwy breintiedig yr un graddau.

Mae’r bwlch rhwng y ddwy garfan wedi tyfu i 27.3%, i fyny o 24.2% yn 2020.

Yn ôl Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi undeb athrawon UCAC, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau buddsoddiad i ddenu mwy o athrawon i fyd addysg.

“Mae angen bod yn strategol am y peth, mae angen cynyddu lefelau staffio er mwyn rhoi cefnogaeth benodol sydd wedi ei theilwra at anghenion unigolion o gefndiroedd gwahanol,” meddai wrth golwg360.

“Mae e’n broblem hirdymor, mae yna wahaniaeth wedi bod dros ddegawdau yn y lefelau cyrhaeddiad rhwng plant sy’n byw mewn tlodi ac eraill sydd ddim, ond mae covid wedi amlygu a gwaethygu hynny.”

Effaith y cyfnodau clo

Mae Rebecca Williams yn dweud bod athrawon wedi troi at yr undeb ac yn sôn eu bod wedi sylwi ar y bwlch cyfoeth ac effaith hynny ar addysg rhai disgyblion.

“Mae staff wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n gweld yn ystod y cyfnod hwn bod y gwahaniaethau hynny wedi dod i’r amlwg o bosib oherwydd tlodi.

“Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu pa mor niweidiol mae tlodi yn gallu bod i deuluoedd, eu plant a’u haddysg. [Plant] oedd yn gorfod gweithio o adref y llynedd dros gyfnod hir.

“Hynny yw, doedd gan rai o’r plant o gefndiroedd tlawd ddim lle, llonydd, cyfarpar na chefnogaeth i allu astudio adref ac mae hynny wedi bod yn niweidiol.

“Yn yr ysgol yw’r lle gorau i fod, fel bod pawb yn gydradd ac yn cael yr un mynediad at adnoddau ac athrawon.”

Taclo Tlodi

Mae Rebecca Williams yn dweud bod angen edrych ar y darlun cyflawn o dlodi yn gyffredinol.

“Mae angen datrys yr economi i sicrhau bod rhwydau diogelwch yn eu lle sy’n atal teuluoedd rhag syrthio mewn i dlodi,” meddai.

“Dyna’r unig ateb i’r cwestiwn ehangach o ddatrys y bwlch cyfoeth mewn addysg. Yn y bôn, mae angen taclo tlodi plant er mwyn taclo tlodi yn ein haddysg,

“Mae’n dasg enfawr a’r pwysau ar ysgwyddau athrawon i ddod â phawb nôl at lefel dysgu safonol.

“Dydy ysgolion ddim yn gallu datrys y cwbl ac felly mae’n holl bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n egnïol i leihau lefelau tlodi.”

Dangosodd ystadegau o ganlyniadau TGAU eleni fod disgyblion ar brydau ysgol am ddim 11.5 pwynt canran y tu ôl i’r rhai nad oeddent yn gymwys, o ran cael graddau A*.

Mae hyn wedi cynyddu 2.8 pwynt canran ers y llynedd ac wedi ehangu 6.2 pwynt canran ers 2019.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun adnewyddu a diwygio ar gyfer addysg ym mis Mehefin, gydag ymrwymiad i wario £150 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2021-22.

Ymateb y Llywodraeth i alwad UCAC

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Cynyddodd y nifer o athrawon dan hyfforddiant ar raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon dros hanner yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae arwyddion cynnar ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi yn dangos bod lefel y diddordeb wedi parhau.

“Rydym wedi sicrhau bod cymhellion ar gael, o hyd at £20,000, i ddenu’r graddedigion gorau i addysgu pynciau blaenoriaethol.

“Rydym wedi buddsoddi £370 miliwn ychwanegol mewn cymorth dysgu yn ystod y pandemig, sy’n cynnwys recriwtio mwy na 1,800 o athrawon a chynorthwywyr addysgu ychwanegol, eleni a’r llynedd, ac mewn offer digidol i ddysgwyr.”

Nifer o bobol ifanc wrth ddesgiau

Cwestiynau ynglyn â diben arholiadau TGAU

“Nid yw’n glir o gwbl bod angen set anferth o arholiadau allanol, ffurfiol yn 16 oed bellach,” yn ôl UCAC