Mae’r Athro Julie Lydon wedi rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd Prifysgolion Cymru.

Hefyd fe fydd yn gadael ei swydd yn Is-ganghellor Prifysgol De Cymru eleni ar ôl wyth mlynedd.

Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd ar Brifysgolion Cymru, a’r Is-ganghellor benywaidd gyntaf yng Nghymru.

Fe fydd hi’n pasio’r awenau ymlaen i’r Athro Elizabeth Treasure o Brifysgol Aberystwyth.

Yn ystod ei chyfnod yn Gadeirydd, mae Julie Lydon yn dweud iddi geisio cynyddu’r sylw mae prifysgolion Cymru’n ei gael yn y sector ar draws Prydain, yn ogystal â diwygio llywodraethol.

‘Torri tir newydd’

Wrth ystyried mai hi oedd y fenyw gyntaf yn y swydd, mae Julie Lydon yn gobeithio gweld patrwm tebyg yn y dyfodol.

“Mae hi bob amser yn bleser bod y cyntaf i dorri tir newydd, ond y pleser mwyaf yw bod eraill wedi fy nilyn,” meddai.

“Mae’n cael ei ystyried nawr yn arferol i fenywod arwain prifysgolion Cymru, yn ogystal â cholegau ac ati.

“Mae hynny’n gadarnhaol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn parhau.”

Roedd Julie Lydon hefyd wedi bod yn gadeirydd drwy gydol y pandemig, gan ddweud bod hynny wedi gorfodi llawer o newidiadau digynsail.

“Rydyn ni wedi bod yn benderfynol o ddal ati i ddysgu yn ystod aflonyddwch hollol ddigynsail, gyda phrifysgolion yn wynebu heriau aruthrol.

“Mae’r pandemig wedi herio pob un ohonom ni mewn ffyrdd na wnaethom ni erioed eu dychmygu. Ond mae wedi bod yn fwy na goroesi: mae arweinyddiaeth, y wybodaeth a mewnwelediad prifysgolion yn bwysig ar draws ein cymunedau.”