Mae penderfyniad Cyngor Abertawe i wrthod cais i agor parc sglefrio poblogaidd mewn lleoliad newydd yn “ergyd siomedig”, meddai Gweinidog Chwaraeon cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig.

Bu’n rhaid i barc sglefrio Ramps, oedd wedi ei leoli yn Llanelli yn wreiddiol ac wedi ei ddefnyddio gan reidiwr BMX Olympaidd, gau oherwydd effaith y cyfnodau clo.

Y gobaith oedd ei ailagor ar stad ddiwydiannol yn Abertawe, ac mae 3,500 wedi arwyddo deiseb yn cefnogi hynny… ond fe wrthodwyd y cais gan y cyngor lleol.

Dywedodd Cyngor Abertawe ei bod yn awyddus i weld parc sglefrio yn yr ardal, er gwaethaf y cais aflwyddiannus.

“Yn yr achos hwn, methodd yr ymgeisydd â darparu tystiolaeth o’r fath [nad oes safleoedd addas ar gael mewn dinasoedd nag ardaloedd eraill] felly – o dan y rheoliadau – roedd yn rhaid i ni wrthod y cais,” meddai llefarydd y cyngor.

“Cafodd y penderfyniad ei wneud o dan bwerau dirprwyedig a gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad i Lywodraeth Cymru.

“Er nad oedd y cais presennol yn llwyddiannus, rydym yn dal yn awyddus i weld cyfleusterau parciau sglefrio yn Abertawe.

“Mae arweinydd y cyngor eisoes wedi ymrwymo i gwrdd â chynrychiolwyr i glywed am gynlluniau a chynigion ar gyfer y dyfodol.”

“Ergyd”

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Gweinidog Chwaraeon cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard AoS:

“Mae llwyddiant diweddar timau BMX a sglefrio Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn Siapan ond yn amlygu’r angen am gyfleusterau fel y rhain yn ein cymunedau.

“Mae parciau sglefrio ledled Cymru yn rhoi amgylchedd diogel i bobol o bob oed gael hwyl, dysgu chwaraeon newydd a chymdeithasu, ac maen nhw hefyd yn helpu i ffurfio athletwyr y dyfodol.

“Mae penderfyniad Cyngor Abertawe i wrthod y fenter hon yn ergyd siomedig, ac rwy’n gobeithio nad yw hyn yn golygu na fydd Ramps Skatepark, a fyddai wedi bod yn gyfleuster gwych i’r gymuned, yn adleoli.”