Mae ofnau bod hyd at bedwar o bobol wedi marw ar ôl i law trwm achosi mwd lithriad yn ne orllewin Japan, a bygwth mwy o dirlithriadau a llifogydd.

Fe lithrodd y mwd gwlyb yn ninas Unzen yn Nagasaki gan daro dau dŷ gyda phedwar o bobol tu mewn.

Cafodd dynes yn ei 50au ei lladd, ac mae dyn yn ei 60au wedi’i anafu’n ddifrifol, yn ôl awdurdodau Unzen.

Mae’r chwilio’n parhau am y ddau breswylydd arall.

Dywedodd yr asiantaeth dywydd fod bron i 20 modfedd o law wedi disgyn mewn rhannau o Nagasaki yn y 48 awr ddiwethaf, gan fynd dros y cyfartaledd ar gyfer mis Awst. Maen nhw’n rhagweld y bydd mwy o law hefyd.

Fe wnaeth yr awdurdodau lleol gynghori tair miliwn o breswylwyr ardaloedd oedd mewn risg uchel i adael, ond nid oedd y mesurau’n orfodol a dim ond rhai pobol sy’n gadael fel arfer.

Mae’r Prif Weinidog Yoshihide Suga wedi galw am gyfarfod rheoli trychineb, ac wedi addo’r gefnogaeth fwyaf posib i’r ymdrech achub a lliniaru, a chefnogaeth i breswylwyr sydd wedi’u heffeithio gan y trychineb.

Fe wnaeth Asiantaeth Dywydd Japan rybuddio y byddai glaw trwm a mwd lithriadau mewn rhannau o dde prif ynys Kyushu.

Cafodd rhybuddion cynharach ar gyfer Hiroshima yng ngorllewin Japan eu hisraddio wrth i’r glaw gilio, ond disgynnodd glaw trwm iawn ar yr ardal ddechrau’r wythnos hon gyda chlipiau’n dangos afonydd yn llawn dŵr mwdlyd ar fin gorlifo.