Mae’r nifer o bobl sy’n cael gwybod bod angen iddynt hunanynysu gan ap y Gwasanaeth Iechyd wedi gostwng am yr ail wythnos yn olynol.

Y ‘Pingdemic’ gafodd y bai fod yna brinder gweithwyr mewn rhai diwydiannau dros yr wythnosau diwethaf.

Anfonodd yr ap 317,132 o rybuddion at ddefnyddwyr yng Nghymru a Lloegr yn y saith diwrnod hyd at Awst 4, gan roi gwybod iddyn nhw fod mewn cysylltiad agos â rhywun a oedd wedi profi’n bositif am Covid-19, a bod angen iddynt hunanynysu am ddeg diwrnod.

Mae yna ostyngiad o 20% ar y 396,513 o rybuddion yr wythnos flaenorol, a oedd wedi gostwng o 690,129 yn yr wythnos hyd at 21 Gorffennaf.

Gwelwyd bron i 11,000 o bobl yn hunanynysu o fewn un wythnos ym mis Gorffennaf gan roi straen ar wasanaethau cyhoeddus fel casgliadau ysbwriel, gyrwyr loris a’r diwydiant lletygarwch.

Ond ers 7 Awst nid oes yn rhaid i bobl yng Nghymru hunanynysu os ydynt wedi cael dau frechiad ac wedi bod mewn cyswllt â pherson sy’n derbyn prawf positif.

Nifer isaf yn derbyn brechiad 

Ond mae yna bryder am y nifer o bobl sy’n derbyn y brechiad gydag ystadegau’n dangos fod y nifer wedi gostwng i’w lefel isaf yng Nghymru ers dechrau’r rhaglen frechu.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru fe roddwyd ychydig dros 46,000 o ddosau allan yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda 4,521 ddydd Llun, y cyfanswm dyddiol isaf hyd yma.

Roedd tua saith o bob wyth o’r pigiadau a roddwyd yn yr amser hwnnw yn ail ddos.

Ym mis Mawrth – pan oedd y rhaglen frechu ar ei hanterth – roedd dros 38,500 dos yn cael eu rhoi bob dydd.

Daw hyn wrth i’r rhaglen ganolbwyntio ar frechu’r rhai sydd dan 50 oed, yn ogystal â chyrraedd  219,000 o bobl sydd yn iau na 40 oed.

Targedu’r ifanc

Ers y mis diwethaf mae’r Gwasanaeth iechyd yn canolbwyntio ar dargedu’r to iau, gyda mwy na thri chwarter y rhai rhwng 18 a 29 oed bellach wedi cael eu dos cyntaf.

Mae’n dal i adael 119,000 yn y grŵp oedran yma sydd heb dderbyn dos.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd ar y trefniadau ar gyfer cynnig y brechiad i bob plentyn 16 ac 17 oed.