Mae Elfyn Llwyd wedi derbyn swydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd y cyn-Aelod Seneddol yn cychwyn yn syth ar y gwaith o fod yn Ddirprwy Ganghellor yn y brifysgol lle y bu yn fyfyriwr.
Bu yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dod yn fargyfreithiwr, ac yna yn Aelod Seneddol dros etholaethau Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd.
Fe ymddeolodd o’r Tŷ Cyffredin yn 2015 a daeth yn aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.
Bydd ei rôl newydd yn cynnwys dyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu seremonïau graddio’r Brifysgol.
‘Anrhydedd’
Mae’r Dirprwy Ganghellor newydd wedi sôn am ei berthynas agos â thref Aberystwyth.
“Mae’n anrhydedd mawr i mi ymgymryd â’r rôl hon, ac i barhau fy mherthynas gyda’r Brifysgol lle bues i’n ddigon ffodus i fod yn fyfyriwr fy hun,” meddai Elfyn Llwyd.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Arglwydd Thomas, y Fonesig Elan, Cyngor y Brifysgol a staff, yn ogystal â’r myfyrwyr yn y sefydliad addysgiadol hanesyddol hwn.
“Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i barhau i gyfrannu at Aberystwyth – prifysgol a thref sy’n golygu cymaint i mi.”
‘Testun balchder’
Mae Canghellor presennol y Brifysgol, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, yn edrych ymlaen o gael cydweithio gydag Elfyn Llwyd.
“Rwy’n falch iawn bod Elfyn wedi derbyn y rôl hon sy’n parhau ei gysylltiad hir ac ymroddedig â Phrifysgol Aberystwyth.
“Mae’n destun balchder i mi weld cyn-fyfyriwr o fri sydd wedi chwarae rhan mor sylweddol ym mywyd y genedl yn cryfhau ei gysylltiadau â ni yn Aberystwyth trwy ein helpu fel hyn.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Elfyn a’n Dirprwy Ganghellor arall, y Fonesig Elan Closs Stephens, wrth i ni barhau i chwarae ein rhan ym mywyd y Brifysgol ryfeddol hon.”