Mae rhagor o unigolion a sefydliadau wedi mynegi pryder na fydd rhaid i Gyfarwyddwr newydd Cyngor y Celfyddydau fedru’r Gymraeg, er y bydd yn gyfrifol am yr iaith.
Daw hyn bythefnos wedi i golwg360 dorri’r stori mai ‘dymunol’ yw’r gallu i fedru siarad Cymraeg ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, sydd yn talu cyflog rhwng £59,269 – £75,477.
Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn bryderus nad yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rôl ‘Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau’.
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd gyhuddo Cyngor y Celfyddydau o “danseilio a thanbrisio’r” iaith, ac maen nhw wedi cadarnhau bod undeb Unite wedi codi pryderon hefyd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi cwestiynau ynghylch sut mae hi’n bosib i Gyngor y Celfyddydau, sy’n ymwneud â’r gymuned, wneud hynny oni bai eu bod nhw’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg.
Yn wreiddiol, roedd y swydd ddisgrifiad yn dweud bod rhuglder yn y Gymraeg yn “ddymunol, er nad yn hanfodol”.
Erbyn hyn, mae’n hanfodol cael “ymwybyddiaeth ymarferol da” o’r Gymraeg, ac ymrwymo i ddysgu’r iaith yn rhugl o fewn deuddeg mis.
Ysgrifennu at y Gweinidog Iaith
Mae Cyngor yr Eisteddfod wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg Jeremy Miles a Chyngor y Celfyddydau gyda’u pryderon nad oes rhaid i’r Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am bolisi iaith a strategaeth yr iaith allu siarad Cymraeg.
Hefyd mae Cyngor yr Eisteddfod yn lleisio’u pryder nad yw dealltwriaeth o’r celfyddydau yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma, ond yn hytrach dim ond yn ddymunol.
“Penderfyniad gweithredol i Gyngor y Celfyddydau ydi hwn,” meddai Jeremy Miles wrth Newyddion S4C.
“Rwy’n falch o weld bod y newid wedi ei wneud i’r disgrifiad o’r swydd i adlewyrchu fod gallu yn y Gymraeg yn bwysig a bod galw ar y person yma i fod yn rhugl o fewn blwyddyn,” meddai.
Staff y Cyngor Celfyddydau “wedi eu siomi’n arw iawn”
Mewn llythyr mewnol at Gadeirydd ac aelodau o gyngor Cyngor y Celfyddydau, mae undeb Unite hefyd yn “datgan ein siom” nad yw’r sefydliad yn meddwl fod y Gymraeg yn hanfodol.
“Pwysleisiwn ei fod yn bwysig gwrando ar lais cynrychiolwyr staff Cyngor Celfyddydau Cymru y tro hwn, sydd wedi eu siomi’n arw iawn,” ychwanega’r llythyr.
“Ffwlbri noeth”
Ac mae’r Archdderwydd wedi ei dweud-hi am y sefyllfa hefyd.
“Maen nhw’n meddwl y bydda swyddog datblygu sydd ddim yn medru siarad Cymraeg, sydd ddim yn medru asesu’r perfformiadau’ a safon deialog, ‘sgwennu, theatr ac ati, fod rhywun felly yn medru datblygu’r celfyddydau yng Nghymru,” meddai’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wrth Newyddion S4C.
“Wel, ffwlbri noeth ydi meddwl hynny. Mae’r busnes yma sy’n cael ei gyflwyno o hyd ydi: ‘Rydan ni’n chwilio am y person gorau i’r job’. Yn yr achos yma fedrwch chi ddim gwneud y job os nad oes oedd ganddoch chi Gymraeg.
“Wrth reswm bod gweld cyrff mawr, pwerus fel Cyngor Celfyddydau Cymru yn tanseilio a thanbrisio’r Gymraeg fel hyn, mae o’n cael effaith hir dymor.”
Ymateb Cyngor y Celfyddydau
Wrth drafod y swydd newydd, dywedodd Sian Tomos, darpar Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn olynu Nick Capaldi ddiwedd yr haf:
“Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg i ddod i weithio gyda ni.
“Rydan ni’n hynod freintiedig fel cwmni i gael cyswllt dyddiol gyda Chymry Cymraeg creadigol a thalentog ac rydym yn hollol hyderus y bydd llawer o’r rhain yn ymgeisio am y swydd hon.
“Mae rhai o’n cydweithwyr ar ddechrau eu taith yn dysgu’r iaith, eraill yn siaradwyr iaith gyntaf rhugl; bydd cyfle iddynt oll ymgeisio am y swydd yma.
“Ac fe gawn nhw gyfle anhygoel i ddatblygu’r celfyddydau, yn llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr a chelf – yn y ddwy iaith – ond bydd pwyslais o’r newydd a rhoi hwb anferth i’r iaith Gymraeg.
“Bydd y Cyfarwyddwr newydd hefyd yn gyfrifol am swydd newydd dan y teitl, Ysgogwr y Gymraeg.
“Mae hon yn swydd sydd wedi’i chreu i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y celfyddydau a byddwn yn disgwyl i unrhyw un sydd am fod yn un o’n cyfarwyddwyr allu esbonio sut y byddan nhw’n blaenoriaethu’r Gymraeg, datblygu talent a gweithio gyda’r sector celfyddydol i gyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.”