Mae un o’r ymgyrchwyr fydd yn dringo i gopa un o fynyddoedd peryclaf Cymru ddydd Llun (Awst 16) i ddatgan “nad yw Cymru ar werth” yn dweud bod marchnad dai agored yn golygu bod “ein cymunedau Cymraeg mewn peryg”.

Bydd y criw yn mynd ati i ddringo i gopaon Crib Goch ger yr Wyddfa, Mynydd Carningli ger Trefdraeth yn Sir Benfro a Phenyfan i dynnu sylw at yr ymgyrch ac i osod baneri ar y copaon hynny.

Mae Osian Jones ymhlith y criw o fynyddwyr profiadol fydd yn mynd ati, gyda’r neges yn cael ei gosod ar y tri chopa ar ffurf baneri.

“Mae ein cymunedau Cymraeg mewn peryg oherwydd fod y farchnad dai agored yn atal pobl ifainc rhag cael cartrefi yn eu cymunedau,” meddai.

“Yn dilyn y rali yn Nhryweryn, byddwn yn cynnal rali bellach yn Nhrefdraeth ar draeth y Parrog Sir Benfro ar Hydref 23ain, cyn mynd â’n galwad at y Llywodraeth trwy rali ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ar y 13eg o Dachwedd.

“Disgwyliwn gamau brys a radical gan Lywodraeth Cymru i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli’r farchnad dai”.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo a fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.