Mae 75,000 o blant 12 i 15 oed yn Iwerddon eisoes wedi’u cofrestru i gael brechlyn Covid-19 ar ôl i wefan gael ei hagor ddydd Iau (Awst 12).

Byddan nhw’n derbyn eu brechlyn mewn canolfannau ar draws y wlad dros y penwythnos, ac mae rhai canolfannau wedi dechrau brechu.

Mae angen caniatâd rhiant ar blant i gael brechlyn, a byddan nhw’n derbyn dos o’r brechlyn Pfizer neu Moderna.

Mae mwy nag 80% o oedolion y wlad wedi’u brechu’n llawn erbyn hyn, a 90% yn rhannol.

Ond mae Gweithgor y Gwasanaeth Iechyd yn dweud eu bod nhw eisiau brechu plant 12 i 15 oed “yn gyflym ac ar frys”, ac mae’r prif weithredwr Paul Reid yn dweud bod y garreg filltir yn y rhaglen frechu yn nodi “diben cryf iawn”.

Ddoe (dydd Gwener, Awst 13), rhybuddiodd Dr Ronan Glynn, dirprwy brif swyddog meddygol Iwerddon, fod cyfraddau Covid-19 ar gynnydd yn Iwerddon, gyda mwy na 10,000 o achosion wedi’u cofnodi yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Ac mae’r achosion yn effeithio ar bobol o bob oed ac nid dim ond y rhai 16-29 oed, meddai.