Mae’n ymddangos bod prinder gyrwyr lorïau HGV eisoes yn cael effaith ar drefniadau casglu sbwriel dau gyngor sir yn y de.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd gwastraff gerddi yn cael ei gasglu bob mis yn lle pob pythefnos o heddiw (dydd Sadwrn, Awst 14).
Daw’r newid wrth i’r cyngor ei chael hi’n anodd ymdopi â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhybuddio am oedi posib o ganlyniad i’r sefyllfa.
Maen nhw’n gofyn i drigolion adael eu sbwriel ar y pafin os na chaiff ei gasglu’n brydlon.
Gall silffoedd gwag mewn siopau fod yn “olygfa gyffredin” os nad oes gweithredu ar frys
Yn ôl perchennog Owens Group, mae’r sefyllfa bellach yn “fregus ac yn ddifrifol” oherwydd bod Brexit a Covid wedi lleihau ar y gweithlu