Mae’r Taliban yn mynd am Kabul, prifddinas Affganistan, ar ôl llwyddo i gipio prif ddinasoedd nifer o daleithiau ledled y wlad.

Sharana, prifddinas talaith Paktika, yw’r ddinas ddiweddaraf i fynd i’w dwylo wrth iddyn nhw gyrraedd y ffin â Phacistan yn y dwyrain.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod yn symud yn y gogledd, y gorllewin a’r de dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’r frwydr ddiweddaraf â’r llywodraeth ar y gweill ryw saith milltir i’r de o Kabul.

Daw’r datblygiadau diweddaraf lai na thair wythnos cyn i’r Unol Daleithiau dynnu’r milwyr olaf allan o’r wlad.