Mae Ken Loach wedi’i wahardd o’r Blaid Lafur, wrth iddo honni bod y blaid yn gwahardd unrhyw un sy’n beirniadu’r arweinydd, Syr Keir Starmer.

Yn sosialydd ar hyd ei oes, mae’r gwneuthurwr ffilmiau 85 oed yn dweud iddo gael ei wahardd ar ôl gwrthod ymbellhau oddi wrth eraill sydd wedi’u gwahardd am fod yn chwyrn eu beirniadaeth o’r arweinydd.

Fis diwethaf, cafodd pedwar o grwpiau Llafur eu gwahardd am nad oedden nhw’n cyd-fynd â gwerthoedd traddodiadol y blaid, gan gynnwys rhai sydd wedi beirniadu’r arweinydd am fethu â mynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth.

Ond mae Ken Loach yn dweud na fydd y fath weithred yn dwyn ffrwyth yn y pen draw, a’i fod e’n “falch o gyd-sefyll â’r ffrindiau da a chymrodyr sydd wedi diodde’r carthiad”.

Mae Loach, sy’n gefnogwr Jeremy Corbyn, yn enwog am ffilmiau sosialaidd gan gynnwys Kes, Sorry We Missed You ac I, Daniel Blake.