Mae gwasanaeth coffa wedi’i gynnal bythefnos ar ôl marwolaeth bachgen pump oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi mewn afon yn ardal Sarn ar Orffennaf 31.

Dioddefodd e anafiadau difrifol, ac mae ei lystad John Cole, 39, wedi’i gyhuddo o’i lofruddio, tra bod ei fam, Angharad Williamson, 30, a bachgen 13 oed wedi’u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd y gwasanaeth er cof am Logan ei drefnu gan yr elusen Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth Pen-y-bont, ac fe gafodd ei gynnal yn eu gardd goffa y bydd rhan ohoni’n cael ei neilltu er cof am Logan.

Roedd oddeutu 40 o bobol yn y gwasanaeth.