Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad yn dilyn ffrwgwd ar strydoedd Manceinion.
Fe ddaw ar ddiwrnod cyntaf tymor pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i Manchester United groesawu Leeds i Old Trafford heddiw (dydd Sadwrn, Awst 14).
Mae deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos torfeydd o bobol yn ymladd, cadair yn cael ei thaflu a rhywun yn cael eu taro â bin sbwriel.
Does neb wedi cael ei arestio, yn ôl yr heddlu, sy’n dweud eu bod nhw’n ceisio adnabod troseddwyr.
Yn ôl yr heddlu, digwyddiadau “unigol” yw’r rhain ond maen nhw’n cydweithio â’r ddau glwb pêl-droed dan sylw.
Mae’r heddlu’n atgoffa cefnogwyr fod modd cael gwaharddiad o ddwy flynedd rhag mynd i gemau am fod â rhan mewn ffrwgwd.
Dywed yr heddlu y byddan nhw’n aros yn y ddinas am weddill y dydd i gadw trefn.