Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi denu’r ymosodwr Alex Fisher, wrth iddyn nhw baratoi i herio Mansfield oddi cartref yn yr Ail Adran heddiw (dydd Sadwrn, Awst 14).

Mae Fisher wedi llofnodi cytundeb am flwyddyn a fydd yn ei gadw yn Rodney Parade tan 2022.

Treuliodd e’r ddau dymor diwethaf gyda Chaerwysg, gan chwarae mewn 46 o gemau.

Dechreuodd ei yrfa gyda Rhydychen, ac mae e wedi treulio cyfnodau yn Sbaen, Gwlad Belg, yr Eidal a’r Alban, yn ogystal â Yeovil.

Roedd e ar gyfnod prawf dros yr haf, gan chwarae mewn gêm baratoadol cyn dechrau’r tymor yn erbyn Abertawe.

‘Llawn awch’

“Treuliodd Alex amser gyda ni cyn dechrau’r tymor ac mae e wedi cyrraedd yn llawn awch ers y diwrnod cyntaf,” meddai’r rheolwr Michael Flynn.

“Mae e wedi perfformio’n dda yn y gemau mae e wedi chwarae ynddyn nhw hefyd.

“Mae ganddo fe ddigon o brofiad yn chwarae yn yr adran hon, mae e’n gallu helpu ein chwarae cyswllt, a dw i’n gobeithio y gall e gael effaith bositif ar y chwaraewyr eraill yn y garfan.

“Mae e’n opsiwn arall da i ni yn y blaen, a dw i’n falch ein bod ni wedi gallu cwblhau’r ddêl hon.”