Mae mudiad ar gyfer gohebwyr criced, y Cricket Writers Club, wedi cyhoeddi bwrsariaeth er cof am Bethan James, merch cyn-gapten Morgannwg Steve a’i wraig Jane.

Bu farw Bethan fis Chwefror y llynedd yn 21 oed, a hithau’n fyfyrwraig newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru.

Nod y fwrsariaeth yw hybu cynhwysiant ac amrywiaeth yn y byd newyddiadurol, gan gefnogi newyddiadurwyr ifainc na fyddai, fel arall, yn gallu derbyn lleoliadau profiad gwaith yn y maes criced oherwydd y costau sydd ynghlwm.

Bydd y fwrsariaeth yn helpu ymgeiswyr i dalu eu costau teithio neu unrhyw gostau eraill sy’n deillio o’r cyfle am brofiad gwaith, ac mae’n bosib hefyd y bydd modd cynnig cyflog bach.