Mae cronfa er cof am Bethan James, merch y newyddiadurwr a chyn-gapten tîm criced Morgannwg Steve James, wedi codi dros £2,500 mewn ychydig ddiwrnodau.

Bwriad y gronfa, yn ôl ei sylfaenydd Emily Wynne, yw codi arian at elusen Crohn’s & Colitis UK.

Bu farw yn yr ysbyty ar Chwefror 8, yn ôl neges ar Twitter gan ei rhieni Steve a Jane, sy’n ei disgrifio hi fel “y ferch a chwaer fwya’ cariadus a gofalgar”.

‘Unigryw’

“Yn syml iawn, roedd Beth yn unigryw,” meddai teyrnged ar y dudalen.

“Roedd hi’n gariadus, yn smart a bob amser yn rhoi pobol eraill o’i blaen hi ei hun.

“Roedd ei phositifrwydd yn llenwi’r ystafell, roedd hi bob amser yn hapus a wnaeth hi fyth fethu â rhoi gwên ar wynebau pobol eraill.

“Hyd yn oed nawr, dyw e ddim yn teimlo’n iawn ei bod hi wedi gwneud i ni grïo.

“Hi oedd y person cyntaf i fod eisiau helpu pobol eraill ac ar ôl cael diagnosis o afiechyd Crohn’s, roedd hi eisiau codi ymwybyddiaeth a helpu’r sawl sydd wedi’u heffeithio gan y cyflwr.

“Mae’r dudalen hon wedi’i sefydlu er cof am Beth a’i ffordd o edrych ar fywyd.

“Ei diben yw helpu ei theulu ar yr adeg hynod o drasig hon ac i gefnogi Crohn’s & Colitis UK yn eu gwaith gwych.

“Mae ein calonnau ni wedi torri.

“Roedd cynifer o bobol yn meddwl y byd o Beth ac rydyn ni mor falch o bopeth gyflawnodd hi yn ei bywyd oedd yn dechrau blaguro’n rhywbeth arbennig.

“Nawr gallwn ni wneud rhywbeth arbennig ar ran Steve, Jane, Rhys [ei brawd] ac er cof amdani hi, yn union fel y byddai wedi ei wneud dros rywun arall.

“Plis cyfrannwch a gadewch neges i’r teulu, atgof o Beth neu nodyn o gefnogaeth.

“Yn ein calonnau ni am byth.”

Teyrnged gan ffrindiau a chyd-fyfyrwyr

Adeg ei marwolaeth, cafodd teyrnged dwymgalon ei gadael iddi gan ei chyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, lle’r oedd hi’n astudio newyddiaduraeth.

Yn y deyrnged honno, mae sôn am gyfarfodydd rhyngddi hi a’r BBC gyda’r bwriad o gomisiynu rhaglen ddogfen am ei hanes fel un oedd yn byw â chyflwr Crohn’s.

“Roedden ni mor browd ohoni gyda’i brwydr gyson a’i pharodrwydd i godi ymwybyddiaeth o Crohn’s, ac mae ei hyder yn rhywbeth sydd wedi ac a fydd yn parhau i’n hysbrydoli ni i gyd,” meddai’r deyrnged.

“Mae ein calonnau ni’n brifo, ac fe fyddan nhw’n parhau i frifo wrth i ni barhau i gofio ein ffrind, merch a fydd gyda ni bob amser. Rydyn ni’n dy garu di Beth xx.”

Ar ôl i’r newyddion am ei marwolaeth dorri, gwisgodd tîm Lloegr fandiau du am eu breichiau yn ystod gêm yn erbyn De Affrica.

Mae modd cyfrannu at y gronfa drwy fynd i’r dudalen GoFundMe.