Mae Rhys Morgan, cyn-brop rygbi Cymru a Chasnewydd, wedi marw’n 67 oed.

Daeth ei unig gap dros ei wlad yn erbyn yr Alban yn 1984.

Ond fe chwaraeodd e mewn 539 o gemau i’w glwb mewn 17 tymor rhwng 1973 a 1989, gan gynnwys rownd derfynol Cwpan Cymru wrth iddyn nhw guro Caerdydd yn 1977.

Roedd e’n sgoriwr ceisiau o fri ac, yn annisgwyl am chwaraewr rheng flaen, yn giciwr cywir hefyd.

Aeth yn ei flaen i fod yn gapten ac yn hyfforddwr ar y clwb.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Enwogion y clwb yn 2012.