Mae nifer o fawrion rygbi Cymru wedi llofnodi llythyr yn galw am newid y rheolau ar eilyddion, mewn ymgais i geisio gwneud y gamp yn fwy diogel.
Mae’r criw o gyn-chwaraewyr y Llewod, sy’n cynnwys Gareth Edwards, Barry John a John Taylor, am weld eilyddion ar gyfer anafiadau yn unig, fel yr oes a fu, er mwyn atal anafiadau difrifol neu farwolaeth ar y cae hyd yn oed.
Yn eu llythyr at Bill Beaumont, cadeirydd y corff World Rugby, mae’r criw yn honni bod rygbi wedi dod yn “ddiangen o beryglus”.
Un arall sydd wedi llofnodi’r llythyr yw’r llawfeddyg, yr Athro John Fairclough, sy’n gweithio ym maes chwaraeon yng Nghymru.
Mae’r llythyr yn rhybuddio nad yw chwaraewyr presennol yn barod i leisio’u barn “rhag ofn iddyn nhw golli eu bywoliaeth”, ac mae’n nodi pryder Sam Warburton, cyn-gapten Cymru, y bydd rhywun “yn marw yn ystod gêm o flaen y camerâu teledu” oni bai bod gweithredu ar unwaith.
“Byddai’n esgeulus dros ben i adael i’r status quo barhau,” meddai’r llythyr wedyn.
“Cafodd rygbi’r undeb ei dyfeisio fel gêm 15 bob ochr ar gyfer 30 o chwaraewyr.
“Gyda’r wyth eilydd bob ochr ar hyn o bryd, gyda nifer ohonyn nhw’n ‘chwaraewyr impact’ tactegol neu’n ‘orffenwyr’, gall ac mae hyn yn aml yn ymestyn i 46.
“Gellir newid mwy na hanner y tîm, a does dim disgwyl i rai chwaraewyr bara 80 munud ac felly maen nhw’n ymarfer at hynny, gan flaenoriaethu grym tros gapasit aerobig.
“Mae hyn yn siapio’r gêm gyfan, gan arwain at ragor o wrthdrawiadau ac yn y cyfnodau olaf, nifer o ‘gewri’ mawr ffres yn taro i mewn i wrthwynebwyr sydd wedi blino.
“Y newid syml rydyn ni’n ei gefnogi yw i ganiatáu wyth eilydd ar y fainc os oes rhaid, ond i gyfyngu ar y nifer y gellir eu defnyddio i bedwar ac wedyn dim ond os oes anaf.
“Bydd hyn yn gwneud y gêm yn fwy diogel, barn sy’n cael ei chefnogi gan chwaraewyr blaenllaw ac aelodau blaenllaw o’r proffesiwn meddygol.”
‘Geiriau i gyd ond heb weithredoedd’
Mae’r llythyr hefyd yn nodi na fu gweithredu 18 mis ar ôl i Bill Beaumont ddweud, fis Ionawr y llynedd, fod “rygbi wedi dod yn gêm i bobol fawr” a’i fod e’n cefnogi arbrawf o reolau newydd.
Mae’r llythyr yn cyhuddo World Rugby o fod yn “eiriau i gyd ond heb weithredoedd”.
Dydy World Rugby ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.