Roedd buddugoliaeth i’r pencampwyr Cei Connah yng ngêm gyntaf tymor pêl-droed newydd y Cymru Premier, wrth iddyn nhw drechu Derwyddon Cefn oddi cartref o 2-0 neithiwr (nos Wener, Awst 13).

Tarodd Joe Faux y bêl i’w rwyd yn y funud gyntaf cyn i’r dyfarnwr wrthod dwy gôl arall, cyn iddyn nhw ddyblu eu mantais drwy’r capten George Horan, a rwydodd gyda’i ben.

Wrth i’r pencampwyr ddechrau’n gadarn, roedd amddiffyn y tîm cartref dan bwysau ar unwaith, wrth i’r gôl gyntaf ddeillio o fethiant yr amddiffyn i glirio’r bêl o’r cwrt cosbi cyn iddi adlamu oddi ar Faux ger y postyn agosaf.

Dechreuodd Cei Connah reoli’r gêm o’r eiliad honno, ac roedd Aron Williams yn beryglus wrth i’r bêl gael ei lledu i’r ystlys a’i chroesi’n ôl i mewn yn gyson.

Cafodd Horan gyfle ar ôl chwarter awr wrth iddo gyrraedd croesiad Williams ger y postyn pellaf, ond fe darodd e ochr y rhwyd.

Er eu bod nhw dan bwysau, parhau i chwarae wnaeth Derwyddon Cefn, ac roedd Emmanuel Agyemang yn fygythiad cyson yn yr ymosod gyda sawl ergyd bwerus.

Rhwydodd Jordan Davies oddi ar groesiad Aron Williams ond roedd y bêl eisoes wedi croesi’r ystlys a phum munud yn ddiweddarach, wnaeth Mike Jones fethu â dal ei afael ar groesiad Williams, gyda’r bêl yn glanio ar ben Horan cyn i hwnnw gael ei gosbi am drosedd ar y golwr.

Apeliodd Derwyddon Cefn am gic o’r smotyn cyn yr egwyl, wrth i Andy Brown gael ei lorio ond doedd yr apêl ddim yn llwyddiannus.

Yr ail hanner

Daeth cyfle cynnar i Gei Connah yn yr ail hanner, wrth i Williams a Horan gyfuno oddi ar dafliad, ond tarodd Horan y trawst â’i beniad cyn i’r bêl gael ei chlirio gan Tony Davies.

Ond dyblon nhw eu mantais ar ôl deg munud o’r ail hanner, gyda thafliad hir gan Williams yn darganfod Horan, a hwnnw’n penio’r bêl heibio’r golwr i’r rhwyd.

Daeth cyfleoedd hwyr i Jamie Mullan ac Aeron Edwards, gyda’r ddau gyfle’n hwylio heibio’r postyn.