Gallai tîm pêl-droed Abertawe wynebu dau o’u cyn-ymosodwyr heno (nos Sadwrn, Awst 14), wrth iddyn nhw groesawu Sheffield United i Stadiwm Swansea.com ar gyfer gêm gartref gynta’r Bencampwriaeth.
Mae’n bosib y bydd Oli McBurnie a Rhian Brewster yn nhîm yr ymwelwyr, wrth i’r Elyrch geisio taro’n ôl ar ôl colli o 2-1 yn Blackburn yng ngêm gynghrair gynta’r tymor.
Roedd eu perfformiad yn erbyn Reading yng Nghwpan Carabao ganol yr wythnos dipyn gwell, wrth iddyn nhw ennill o 3-0 ar ôl i’r rheolwr newydd Russell Martin wneud pum newid i’r tîm.
Ac mae disgwyl i Brandon Cooper, Dan Williams, Yan Dhanda, Joel Piroe a Morgan Whittaker gael cyfle arall.
Ond bydd yn rhaid i Liam Walsh gael prawf ffitrwydd, ac mae Connor Roberts allan ag anaf hirdymor tra bod Jay Fulton wedi’i wahardd.
Bydd yr ymwelwyr heb Lys Mousset, yr ymosodwr sydd wedi anafu llinyn y gâr ac sydd allan am hyd at chwe wythnos i gyd, a gallai Billy Sharp ddechrau os nad yw McBurnie a/neu Brewster yn cael cyfle.
Ac mae’r cefnwr chwith Enda Stevens allan hefyd ar ôl anafu ei ben-glin.
Er ei fod e’n cael ei gysylltu ag Arsenal, mae disgwyl i’r golwr Aaron Ramsdale ddechrau’r gêm, a hynny o flaen torf o 16,000 yn Abertawe ar ôl i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru gael eu llacio digon.