Mae Mick McCarthy’n dweud ei fod yn gobeithio y bydd perfformiadau Caerdydd oddi cartref y tymor hwn gystal ag oedden nhw y tymor diwethaf.

Bydd yr Adar Gleision yn chwarae eu gêm gyntaf oddi cartref yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Awst 14) yn erbyn Blackpool.

Dim ond gêm gyfartal lwyddon nhw i’w chael yr wythnos ddiwethaf yn erbyn Barnsley yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda thorfeydd yn gwylio gemau cystadleuol yno am y tro cyntaf ers mis Chwefror y llynedd.

Ers i McCarthy ymuno ym mis Ionawr, dydyn nhw ddim ond wedi colli tair gêm allan o 23 yn y gynghrair.

Gwell Caerdydd, Caerdydd oddi cartref?

“Rydyn ni’n mynd oddi cartref gan geisio ennill gemau – dydyn ni ddim yn mynd oddi cartref i eistedd yn ôl a chymryd pwynt,” meddai Mick McCarthy.

“Dw i bob amser wedi dweud ym mhob man dw i wedi bod, os ydych chi’n cael pwynt oddi cartref yna mae’n bwynt arall yn eich poced.

“Rhaid peidio â diystyru hynny gan ei bod hi’n anodd chwarae oddi cartref, yn enwedig nawr bod torfeydd yn ôl.

“Roedd ein perfformiadau oddi cartref y llynedd heb y torfeydd yn wych, felly gadewch i ni weld a ydyn nhw gystal gyda thorfeydd yn ôl – gobeithio y byddan nhw!”

Y gwrthwynebwyr

Fe gafodd eu gwrthwynebwyr, Blackpool, eu dyrchafu o’r Adran Gyntaf (League One) y tymor diwethaf, ond dydy Mick McCarthy ddim yn eu cymryd yn ganiataol.

“Mae ganddyn nhw’r momentwm ers y llynedd,” meddai.

“Fe wnaethon ni i gyd wylio eu gêm yn erbyn Bristol City ac roedden nhw’n gystadleuol iawn.

“Er iddyn nhw sgorio yn hwyr, roedden nhw wedi taro’r postyn cyn hynny ac wedi edrych yn gryf.

“Ac yna fe wnaethon nhw chwarae Middlesbrough nos Fercher a’u chwalu nhw o dair gôl i ddim.

“Fe fyddan nhw’n hyderus iawn ac yn teimlo’n dda iawn amdanyn nhw eu hunain cyn eu gêm gartref gyntaf.

“Maen nhw’n chwarae brand da o bêl-droed, ac maen nhw’n cael y bêl lawr y cae a phasio rownd y cefn.

“Rydyn ni’n mynd yno i geisio ennill y gêm serch hynny – dyna’r cyfan y gallwn ni ei wneud.”