Bydd clwb pêl-droed Caernarfon yn gadael gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd i mewn am ddim i’w gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Hwlffordd yfory.

Ac mae Paul Evans wrth ei fodd yn cael croesawu cefnogwyr i’r Oval am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020.

“Mae’n teimlo’n wych i fod yn ôl i’r arfer,” meddai’r Cadeirydd.

“Rydyn ni wedi bod, fel pawb arall, heb gefnogwyr ers cychwyn llynedd, a dydyn ni methu disgwyl i groesawu pawb yn ôl.

“Ar gyfer y gêm, rydyn ni’n rhoi gwahoddiad i staff NHS fynychu am ddim er mwyn dweud diolch am beth maen nhw wedi ei wneud dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Dros y flwyddyn, mi fyddwn i’n gobeithio gwneud llawer ar gyfer gweithwyr rheng flaen hefyd.”

Gobeithion am y tymor

Y llynedd, fe gollodd Caernarfon gêm dyngedfennol yn erbyn y Drenewydd i hawlio eu lle yng nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed, ond mae’r clwb wedi buddsoddi’n helaeth dros yr haf.

“Roedd hi’n agos iawn llynedd,” meddai Paul Evans.

“Rydyn ni’n chwarae steil dipyn yn wahanol o bêl-droed eleni.

“Roedden ni’n chwarae’n fwy uniongyrchol llynedd, ond mae Huw Griffiths wedi dod a hogiau i mewn sydd yn dda ar y bêl.

“Rydyn ni wedi prynu’n dda eleni, ond dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi gorffen eto – dw i’n siŵr fydd yna ddau neu dri arall yn ymuno cyn diwedd y cyfnod prynu.”

Pryderon ariannol

Mae Cadeirydd Caernarfon yn pryderu bod y clwb yn “colli miloedd o bunnau” pan mae eu gemau yn cael eu dangos ar S4C.

Bydd yr ornest rhwng Caernarfon a Hwlffordd yfory am 5.15 yn cael ei dangos yn fyw ar Sgorio ar S4C.

A thra yn falch o fedru croesawu cefnogwyr unwaith eto i gae’r Oval, mae’r Cadeirydd yn bryderus fod llai am fynychu’r gêm am ei bod yn fyw ar y teledu.

Mae gan Gaernarfon gefnogaeth gref ac mae cannoedd yn mynd i’w gwylio fel arfer.

Ond mae Cadeirydd Paul Evans yn dweud eu bod nhw’n debygol o “golli miloedd o bunnoedd” dros y tymor pan mae eu gemau’n cael eu darlledu.

Mae’n credu bod cefnogwyr yn penderfynu gwylio gemau o adref yn hytrach nag yn y stadiwm, ac felly mae llai o arian yn cael ei godi ar y giatiau.

Y penwythnos yma yw’r tro cyntaf ers Mawrth 2020 i gefnogwyr gael bod yn bresennol yng ngemau’r gynghrair, felly mae’n siŵr fydd y sgrin a’r stadiwm yn gorfod cystadlu â’i gilydd.

“Well petai hi ddim ar y teledu”

Bydd cefnogwyr yn dychwelyd i’r Oval yng Nghaernarfon i weld y gêm gystadleuol gyntaf yno ers Mawrth 2020, ond mae Paul Evans yn teimlo bod darlledu’r gêm ar deledu yn golygu na fydd rhai cefnogwyr yn mynychu’r stadiwm.

“Yn anffodus, mae’r gêm ar y teledu, ac mae hynny’n costio dipyn o arian i’r clwb,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni’n cael taliad bach [gan S4C] ar ddechrau’r tymor ond rydyn ni’n colli mwy o arian ar y giât os ydi’r gêm ar y teledu.

“Dros y flwyddyn, dw i’n siŵr bod ni’n colli miloedd o bunnoedd.

“Er fydd yna lot yn y gêm, fyddai’n well gen i petai hi ddim ar y teledu.”