Mae tymor newydd y Cymru Premier yn dechrau heno (nos Wener, 13 Awst) wrth i’r pencampwyr Cei Connah herio Derwyddon Cefn oddi cartref.
Bydd y gic gyntaf ar Y Graig am 7:45 o’r gloch.
Dyma fydd y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 i gefnogwyr gael mynychu gêm yn y JD Premier, ar ôl i bob gêm yn ystod tymor 2020-21 gael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.
Gorffennodd y Derwyddon Cefn ar waelod y gynghrair y llynedd, ond fe gawson nhw osgoi’r gwymp oherwydd pandemig y coronafeirws.
Ar y llaw arall, enillodd tîm Andy Morrison y ras agosaf ers blynyddoedd, gan sicrhau eu hail deitl yn olynol gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Penybont ar ddiwrnod olaf y tymor.
Bydd y Seintiau Newydd – orffennodd yn ail – yn benderfynol o daro’n ôl y tymor hwn ac ennill teitl rhif 14.
Cei Connah “ddim yn ffefrynnau”
Mae Andy Morrison yn rhagweld “cracar” o dymor, ond nid yw’n credu bod Cei Connah yn ffefrynnau i ennill y gynghrair eto.
“Roedd ennill y gynghrair yn gyflawniad rhyfeddol,” meddai.
“Mae rhai pobol yn dweud mai ni, fel pencampwyr y ddau dymor diwethaf, yw’r ffefrynnau, ond dw i ddim yn meddwl mai ni yw’r ffefrynnau gyda’r bwcis.
“Mae TNS wedi taflu popeth at y tymor hwn – maen nhw wedi mynd i lefel arall ac mae’n amlwg mai nhw yw’r ffefrynnau clir.
“Ond nid yw gwario arian a gwneud buddsoddiad enfawr ddim wastad yn gwarantu llwyddiant, a dim ond amser a ddengys.”
“Timau eraill wedi cryfhau”
Nid dim ond y Seintiau Newydd y mae Andy Morrison yn wyliadwrus ohonynt y tymor hwn, fodd bynnag.
Mae’n rhagweld cystadleuaeth gan dimau eraill sydd wedi cryfhau.
“Mae’r Bala wedi buddsoddi eto ac i mi yn llawer cryfach nag yr oeddent y llynedd,” meddai cyn-gapten Manchester City.
“Bydd y Barri eisiau gwella ar yr hyn a wnaethant y llynedd ac yn amlwg mae gennych fuddsoddiad mawr yn y Fflint.
“Mae Hwlffordd wedi dod â rhai chwaraewyr da i mewn ac mae gennych dîm Penybont cryf iawn sydd wedi aros gyda’i gilydd.
“Mae hi’n mynd i fod yn gracar o dymor ac mae’n mynd i fod yn wirioneddol gystadleuol.
“Ond os mai arian oedd i gyfrif am ennill teitlau, yna mae TNS eisoes wedi ei ennill.”