Tor calon oedd hi i’r Seintiau Newydd neithiwr (nos Iau, 12 Awst) wrth iddyn nhw golli ar giciau o’r smotyn oddi cartref yn erbyn Viktoria Plzen – gan ddod ag antur y clwb yn Ewrop i ben.

Roedd y tîm o Gymru ar y blaen 4-2 yn dilyn y cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe wnaeth gôl gan Louis Robles ar ôl pedwar munud ymestyn eu mantais.

Sgoriodd Pavel Bucha i roi gobaith i’r tîm o’r Weriniaeth Tsiec, cyn i’r Seintiau ildio goliau gan Tomas Chory a Jean-David Beauguel yn yr 85fed a 91ain munud, gan fynd a’r gêm i amser ychwanegol.

Roedd y Seintiau wedi ildio dwy gôl hwyr yn y cymal cyntaf hefyd.

Doedd dim modd gwahanu’r timau ac fe aeth y gêm i giciau o’r smotyn.

Methodd y Seintiau eu dwy gic gyntaf o’r smotyn, gan golli 4-1 yn y diwedd.

Bydd dynion Anthony Limbrick yn gwybod eu bod wedi methu cyfle euraidd i gyrraedd gemau ail-gyfle Cyngres Ewropa ar ôl mynd 5-2 ar y blaen wedi gôl Louis Robles.

Bydd Viktoria Plazen nawr yn herio CSKA Sofia o Bwlgaria neu Osijek o Croatia am le yng ngrwpiau’r gystadleuaeth.

“Balch”

“Wrth gwrs ein bod ni’n siomedig, ond dw i’n falch o’r chwaraewyr a’r staff,” meddai rheolwr y Seintiau Newydd, Anthony Limbrick, wrth BBC Radio Wales.

“Roedd yn ymdrech enfawr o ystyried y gwrthwynebwyr – roedd mynd â nhw i giciau o’r smotyn yn dipyn o gamp.

“Pan rydych chi’n chwarae’r timau gorau mae pethau’n mynd i fod yn dynn, fe wnaethon ni ildio’n hwyr yn y ddwy gêm ac roedd y chwaraewyr wedi ymladd erbyn y diwedd a gallan nhw ddim fod wedi gwneud mwy.

“Ar ôl y gêm dywedais wrthynt pa mor falch oeddwn i, roedden nhw’n ymladd i’r diwedd, ddwy flynedd yn ôl roedden nhw [Viktoria Plzen] yn chwarae yn erbyn Real Madrid ac yn curo Roma yng Nghynghrair y Pencampwyr felly roedd hyn gam mawr i fyny.”