Mae gobeithion y Seintiau Newydd o gyrraedd rownd nesaf Cyngres Ewropa yn fyw ac yn iach yn dilyn buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Viktoria Plzen neithiwr (nos Iau, 5 Awst).
Hwn oedd y cymal cyntaf rhwng y ddau dîm yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth.
Rhoddodd Blaine Hudson y tîm o Uwch Gynghrair Cymru ar y blaen ar ôl 19 munud gyda pheniad grymus.
Sgoriodd Declan McManus hat-trick, gan gynnwys dwy gic o’r smotyn, wrth i’r Seintiau fynd 4-0 ar y blaen.
Mae’r gŵr gafodd ei arwyddo o Dunfermline Athletic am £60,000 dros yr haf wedi profi ei werth i’r Seintiau hyd yma.
Ond bydd dynion Anthony Limbrick yn cicio eu hunain ar ôl ildio dwy gôl ym munudau olaf y gêm.
Gallai hynny fod yn gostus pan fydd y Seintiau’n teithio i’r Weriniaeth Tsiec ar gyfer yr ail gymal yr wythnos nesaf.
Bydd enillwyr y drydedd rownd gymhwysol yn wynebu CSKA Sofia o Bwlgaria neu Osijek o Croatia yn y rownd nesaf.
‘Didrugaredd’
Dywedodd prif hyfforddwr y Seintiau Newydd Anthony Limbrick: “Rydyn ni’n ddidrugaredd ac yn glinigol ar hyn o bryd ac mae sgorio pedair gôl yn erbyn gwrthwynebwyr o’r safon yma yn dweud rhywbeth amdanom ni a’r chwaraewyr dw i’n meddwl.
“Roeddwn i’n meddwl bod y chwaraewyr yn wych ac ni allwn fod wedi gofyn am fwy na hynny.
“Rydym yn siomedig gyda’r diwedd ond pe baech wedi cynnig mantais o ddwy gôl i mi ar ddechrau’r gêm hon, byddwn wedi ei gymryd.”