Colli o bedwar rhediad oedd hanes tîm criced Morgannwg yn eu gêm 50 pelawd olaf yn erbyn Swydd Efrog yng Nghwpan Royal London yng Nghaerdydd, ond maen nhw wedi gorffen ar frig eu grŵp gan sicrhau gêm gartref yn y rownd gyn-derfynol.

Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg gyrraedd rowndiau olaf cystadleuaeth Rhestr A ers 2013.

Roedd ganddyn nhw gyfradd sgorio uwch na’u gwrthwynebwyr yn y gemau grŵp ar ddiwedd y rownd, gan orffen uwchlaw Swydd Efrog a Surrey, sydd hefyd yn cymhwyso ar gyfer y rownd nesaf.

Roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 230, ac fe gawson nhw eu hachub gan bartneriaeth wythfed wiced o 84 rhwng Jonathan Tattersall a Matthew Waite.

Wrth ymateb, dechreuodd Morgannwg yn gadarn gyd phartneriaeth agoriadol o 121 rhwng Nick Selman (92) a Hamish Rutherford (58).

Roedd angen 11 ar Forgannwg oddi ar belawd ola’r ornest, ond fe gollon nhw ddwy wiced gan orffen ar 226 am wyth.

Batiad Swydd Efrog

Galwodd Morgannwg yn gywir a gwahodd Swydd Efrog i fatio, ac fe ddechreuodd yr ymwelwyr yn gadarn wrth i Will Fraine daro cyfres o ergydion i’r ffin i gyrraedd 25 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Michael Hogan yn y seithfed pelawd.

Cyrhaeddon nhw’r 50 bedair pelawd yn ddiweddarach cyn i James Weighell waredu Will Luxton, wrth iddo roi daliad syml i Steven Reingold yn y cyfar dair pelawd yn ddiweddarach.

Roedden nhw’n 70 am dair pan gafodd Harry Duke ei fowlio am 20 gan y troellwr Andrew Salter.

Cipiodd troellwr arall, Steven Reingold, wiced yn ei belawd gyntaf, y belawd ganlynol, wrth iddo fowlio Gary Ballance oddi ar y droed ôl, a’r Saeson erbyn hynny’n 88 am bedair cyn diwedd yr ugeinfed pelawd.

Ar ôl cyfnod cywir a llwyddiannus i fowlwyr Morgannwg, cawson nhw eu gwobrwyo wrth i Joe Cooke fowlio George Hill gyda phelen isel, cyn i Matthew Revis gael ei ddal gan Cullen oddi ar y belen ganlynol cyn i Dom Bess atal yr hatric.

Ond roedd Swydd Efrog mewn dyfroedd dyfnion ar 121 am chwech, ac fe allen nhw fod wedi colli eu seithfed wiced pan fethodd Nick Selman â dal ei afael ar y bêl i waredu Bess, wrth i Salter orffen gydag un wiced am 34 yn ei ddeg pelawd.

Ond roedd Bess ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn belawd yn ddiweddarach ar ôl i Weighell daro’i goes o flaen y wiced.

Roedd y Saeson yn 178 am saith gyda deg pelawd yn weddill, wrth i Tattersall a Waite barhau i bentyrru’r rhediadau ac adeiladu partneriaeth swmpus.

Ond cafodd Waite ei ddal yn wych gan Billy Root ar y ffin am 44 oddi ar fowlio Cooke, gan ddod â phartneriaeth o 84 i ben am yr wythfed wiced, a’r bowliwr yn cipio tair wiced am 40 yn ei ddeg pelawd.

Cyrhaeddodd Tattersall ei hanner canred oddi ar 58 ar ôl taro dwy ergyd i’r ffin, ond fe gafodd ei ddal gan y capten Kiran Carlson oddi ar fowlio Hogan am 53, dair pelawd cyn diwedd y batiad.

Cafodd Josh Sullivan ei ddal gan Hogan oddi ar fowlio Weighell wyth pelen yn brin o’r 50 pelawd.

Cipiodd Weighell dair wiced am 55.

Cwrso’n ofer

Roedd Morgannwg yn edrych yn gyfforddus trwy gydol y batiad, wrth i Hamish Rutherford a Nick Selman adeiladu partneriaeth agoriadol o 121, cyn i Rutherford gael ei fowlio gan Ben Coad.

Roedd angen 58 ar Forgannwg i ennill gyda deg pelawd yn weddill, ond fe wnaeth George Hill daro ddwywaith mewn pelawd i waredu Reingold, a gafodd ei fowlio am 25, a Carlson a gafodd ei fowlio am un, gyda Morgannwg yn 182 am dair.

Cafodd Selman ei ddal gan Gary Ballance am 92 wrth i Hill gipio’i drydedd wiced, a Morgannwg yn 187 am bedair.

Roedd angen 44 oddi ar 41 o belenni am y fuddugoliaeth erbyn hynny, ond parhau i gwympo wnaeth wicedi Morgannwg gyda Billy Root, Joe Cooke, Tom Cullen a James Weighell yn colli eu wicedi o fewn 3.4 pelawd.

Fe wnaeth Hill orffen gyda thair wiced am 49.

Essex neu Swydd Efrog fydd gwrthwynebwyr Morgannwg ddydd Llun (Awst 16), gyda mynediad yn rhad ac am ddim i aelodau’r sir.