Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e eisiau i’r capten Matt Grimes aros gyda’r clwb.

Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai’r chwaraewr canol cae 26 oed adael, ac mae e wedi’i gysylltu â sawl clwb yn ddiweddar.

Ac mae Martin yn dweud bod trafodaethau am ei ddyfodol wedi’u cynnal eisoes.

Ac yntau wedi ymuno â’r clwb yn Ionawr 2015, mae’n gapten ar yr Elyrch ers dau dymor, ac roedd e wrth y llyw ar gyfer y gemau yn erbyn Blackburn yn y gynghrair a Reading yng Nghwpan Carabao dros y dyddiau diwethaf.

“O ran Grimesy, rydyn ni eisiau iddo fe aros, bydden ni’n dymuno iddo fe aros,” meddai Russell Martin.

“Ein chwaraewr ni yw e, ein capten ni yw e, a fydd hynny ddim yn newid.

“Bydd e’n chwarae rhan ar ddydd Sadwrn a dw i’n meddwl, y tu ôl i’r llenni, y bu sgyrsiau ynghylch sut y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd.

“Bydd rhaid i ni aros i weld o ran hynny, a dw i’n sicr dros yr wythnosau nesaf y bydda i’n cael fy holi o hyd am hyn.

“Ond y cyfan alla i ei ddweud wrthoch chi yw y bydden ni’n hoffi iddo fe aros.

“Does neb mewn brys i’w orfodi fe i adael y clwb, felly gawn ni weld sut fydd e’n troi allan.

“Ond rydyn ni eisiau cadw ein chwaraewyr da, ac mae e’n sicr yn un o’r rheiny.

“Mae e’n gwbl broffesiynol, yn gapten gwych o ran sut mae’n ymddwyn a sut mae e’n chwarae ar y cae ymarfer ac ar y cae, ac mae e wrth ei fodd yma.

“Dw i wedi cael sawl sgwrs gyda fe am hynny.

“Mae e wedi ymgartrefu yma gyda’i bartner, mae e wrth ei fodd yn yr ardal, mae e wedi bod gyda’r clwb ers amser hir ac mae ganddo fe berthynas wych gyda’r cefnogwyr.

“Mae e’n ymwybodol o’r hyn sydd ganddo fe yma, ac mae hynny’n bwysig.”