Doedd taith ddiweddara’r Llewod i Dde Affrica fyth yn mynd i fod yn un arferol. A hithau’n dod yng nghanol cyfnod pandemig Covid-19 a fyddai’n golygu stadiwm gwag a dim teithwyr o wledydd Prydain, ac ar adeg o anhrefn sifil yn sgil y pandemig a charcharu’r cyn-Arlywydd Jacob Zuma, roedd cryn edrych ymlaen at wledd o rygbi i godi ysbryd y genedl.
Ond fel mae’r sylwebydd Cennydd Davies wedi bod yn egluro wrth golwg, roedd safon y rygbi ar y cae a’r dadleuon oddi arno yn destun cryn siom.
Ar ôl wynebu’r posibilrwydd o daith heb y capten Alun Wyn Jones yn sgil anaf i’w ysgwydd, cafodd y Llewod hwb wrth i’r Cymro ddychwelyd yn annisgwyl i’w harwain i fuddugoliaeth o 22-17 yn y prawf cyntaf. Tarodd y tîm cartre’n ôl yn gryf yn yr ail brawf ac ennill o 27-9 i unioni’r gyfres a sicrhau y byddai’r gyfres yn cyrraedd penllanw yn y trydydd prawf tyngedfennol. De Affrica enillodd y prawf olaf – o 19-16 – a’r gyfres. Ac yn ôl Cennydd Davies, gallai’r gyfres fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai’r Llewod, yn yr ail brawf, wedi chwarae’n debycach i sut wnaethon nhw chwarae yn y trydydd.
“Yn y pen draw, roedd y Llewod wedi dangos eu dannedd, i ryw raddau, yn y trydydd a’r prawf olaf, efallai’r rygbi gorau wnaethon ni weld yn ystod y gyfres. Ond roedd hynny wedi cael ei orfodi, i ryw raddau, achos roedd Finn Russell wedi dod ymlaen yn gynnar.”
Gellid dadlau’n hawdd iawn mai Russell yn dod i’r cae yn eilydd yn lle Dan Biggar oherwydd anaf i’w goes ar ôl deg munud oedd y trobwynt i’r Llewod. Yn hytrach na chicio, aeth y Llewod yn eu blaenau i chwarae rygbi mwy agored, gyda’r Albanwr yn helpu i ledu’r bêl yn gynt. Ond fel mae sylwebydd BBC Cymru yn dadlau, mae Russell hefyd yn dueddol o wneud camgymeriadau.
“Y manteision o safbwynt y Llewod oedd fod rhaid newid y patrwm. Byddai hynny wedi gofyn mwy o gwestiynau o’r Springboks. A wnaethon ni weld hynny. Wnaethon ni weld blaenwyr ac olwyr yn cyfuno. Mae Finn Russell yn fwy fflat, mae e’n fwy o fygythiad. Wnaethon ni weld hynny yn sicr.
“Yr anfanteision oedd, efallai, fe welon ni yn y trydydd chwarter fod rhyw elfen o banig yng ngêm y Llewod. Ro’n nhw’n ffaelu ennill tiriogaeth, neu ddigon o diriogaeth. Pan oedd angen mynd lawr y cae, do’n nhw ddim yn gallu gwneud hynny. Doedd hynny ddim yn fai ar Finn Russell yn uniongyrchol, dwi ddim yn meddwl bod yr haneri wedi rheoli ac wedi cael cyfnod gwael hefyd, felly roedd yna anfanteision yn ogystal, ond fwya’ mae Finn Russell yn trio rhywbeth, ry’n ni’n gweld y da a’r drwg gyda fe. Ry’n ni’n gweld ei ddewiniaeth e ond weithiau, wrth gwrs, mae yna gamgymeriadau yn dilyn.”
Diffyg creadigrwydd
Serch hynny, a oes modd dadlau, efallai, y byddai’r Llewod wedi chwarae gêm wahanol gyda Russell yn y crys rhif deg trwy gydol y gyfres?
“Sgwn i beth fyddai wedi digwydd petai’r Llewod wedi ymgymryd ag arddull fwy creadigol, wedi mynd amdani fwyfwy oherwydd roedd yna ymdeimlad yn yr ail brawf mai mynd allan i beidio colli wnaeth y Llewod, yn hytrach na bachu ar y cyfle i ennill.”
Y diffyg creadigrwydd yna yn erbyn cadernid De Affrica oedd siom fwya’r gyfres, efallai, ac wedi cyfrannu’n helaeth at gyfres oedd heb danio’n llawn.
“Mae’n rhaid bod yn onest, roedd y gyfres yn ddiflas iawn o safbwynt rygbi deniadol. Ges i fy siomi â thactegau’r ddwy ochr, ond wedi gweld tactegau De Affrica yn yr ail brawf, bydden i wedi dymuno gweld mwy gan y Llewod. Mae rygbi, dwi’n teimlo, wedi symud ymlaen. Ry’n ni i gyd yn gwybod tactegau Warren Gatland, on’d y’n ni? Mae e’n bragmataidd, mae e’n geidwadol, mae e am ennill y frwydr gorfforol, ennill y canrannau. Mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn dros ei yrfa gyda Chymru.
“Ond mae rygbi wedi symud ymlaen. Rwy’n teimlo nawr bod angen mentro, bod angen dangos rhywbeth o ran yr elfennau yn yr ymosod. Prin iawn wnaethon ni weld hynny yn y tair gêm. Ond o safbwynt y gêm dyngedfennol, y Llewod efallai yn colli rheolaeth yn y trydydd chwarter, disgyblaeth yn broblem, ac roedd rhywfaint o anlwc o ran y cais wnaethon nhw ei ildio ond unwaith roedd De Affrica ar y blaen, hynny yw doedd dim menter yn mynd i fod yn eu gêm nhw o gwbl.”
Morne Steyn yn troi’r cloc yn ôl
Un wnaeth fentro, serch hynny, oedd yr eilydd o faswr i Dde Affrica, Morne Steyn. Ei gicio fe, yn y pen draw, oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm. Ac yntau bellach yn 37 oed, fe wnaeth e droi’r cloc yn ôl gan gicio’i dîm i fuddugoliaeth fel y gwnaeth e ddeuddeg o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, cafodd y Gwyddel Ronan O’Gara ei feirniadu am beidio â chicio cic gosb oddi ar y cae a chymryd cyfres gyfartal, ac yna am droseddu gan roi’r cyfle i Dde Affrica ei chipio yn y pen draw, gyda chic gosb Steyn o’i hanner ei hun yn hedfan drwy’r pyst.
“Mae’n anodd credu bod hanes wedi ailadrodd ei hun,” meddai Cennydd Davies. “Pan ddaeth e ymlaen, daeth e ymlaen yn unswydd i ennill y gêm, a dyna’n union ddigwyddodd. Dwi’n cofio’r weithred honno gan Ronan O’Gara yn Loftus Versfeld yn 2009, a Morne Steyn yn dod lan ac yn torri calonnau’r Llewod. Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai hynny wedi digwydd eto ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach?
“Morne Steyn oedd yr arwr, ond dw i ddim yn gwybod sut fydd pobol yn cofio’r gyfres, cymaint o amgylchiadau anodd. A ddylai’r gyfres fod wedi mynd ymlaen o gwbl? Dwi ddim yn siŵr. Dw i’n siŵr, petai’r awdurdodau wedi dod rownd y ford, dwi’n credu fyddai yna bosibilrwydd o’i chynnal hi y flwyddyn nesa’. Ond dwi ddim yn gwybod, petai’r dorf wedi bod yno, a fyddwn i wedi bod yn hapus yn talu miloedd ar filoedd i weld yr arlwy? Dim o gwbl.”
‘Rant Rassie a’r gemau geiriol’
Bydd y gyfres hon yn cael ei chofio am drafodaethau ymylol, mae’n siŵr, nid lleiaf y dadlau a’r cryn drafod gan yr hyfforddwyr am safon y dyfarnu, a gyrhaeddodd benllanw cyn y prawf olaf, gyda “rant Rassie” yn cael cyfarwyddwr rygbi De Affrica mewn dŵr poeth gyda’r awdurdodau. Ond dyw Warren Gatland ddim yn ddi-fai chwaith, meddai.
“Yn anffodus, mae’r drafodaeth wedi bod yn thema barhaol, on’d yw hi, drwy gydol y gyfres. Sylwadau annymunol iawn. Mae ‘rant Rassie’ wedi cael cymaint o sylw, on’d yw e? Y fonolog o awr o hyd lle’r oedd e’n gwbl ryfeddol, ac mae’n gwbl gyfiawn ei fod e wedi cael ei gyhuddo gan World Rugby. Dyw’r Llewod ddim wedi bod yn ddi-fai fan hyn chwaith, gyda Warren Gatland yn rhoi Marius Jonker o dan y chwyddwydr cyn y prawf cynta’. Dwi’n deall y ddadl. Dwi’n deall dadl y Llewod, wrth gwrs, roedd angen rhywun niwtral. Ond roedd Warren Gatland yn sicr yn gwybod beth oedd e’n ei wneud trwy roi Marius Jonker o dan y chwyddwydr yn fynna.
“Mae hyn wedi bod yn cripad mewn i rygbi dros y blynyddoedd diwetha’, nid yn unig Warren Gatland a Rassie Erasmus. Mae Eddie Jones yn gwneud sylwadau am ddyfarnwyr ac mae angen i’r awdurdodau ddileu hyn yn gyfangwbl. Felly mae hyn wedi bod yn annymunol ac, yn anffodus, mae e wedi cymryd oddi ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae. Felly dwi’n gobeithio bod World Rugby yn dod lawr yn galed ar Rassie Erasmus i ddangos esiampl.”
Er ei fod yn dweud bod rhaid canmol De Affrica, tîm sydd wedi chwarae ychydig iawn o rygbi ers ennill Cwpan y Byd yn Japan ddwy flynedd yn ôl pan drechon nhw Loegr o 32-12 yn Yokohama, cafodd Cennydd Davies ei siomi’n bennaf gan ddiffyg ymosod a mentergarwch olwyr De Affrica oedd yn cynnwys yr asgellwyr chwim Cheslin Kolbe a Makazole Mapimpi a’r cefnwr Willie le Roux.
“Dydyn nhw ddim wedi chwarae fel tîm, maen nhw wedi chwarae ar draws y byd wrth gwrs gyda’u timau gwahanol. Felly mae’n rhaid eu canmol nhw o safbwynt ysbryd a chymeriad i wrthsefyll grym y Llewod. Ar y llaw arall, ges i fy siomi yn fawr iawn i feddwl bod yna driawd talentog tu ôl gyda nhw yn Cheslin Kolbe, Willie Le Roux a Mazakole Mapimpi, a phrin iawn o’r bêl mae’r olwyr yn ei gweld. Prin iawn mae’r bêl yn mynd heibio’r maswr. Pan mae Faf de Klerk yno, dyw hi ddim yn mynd heibio’r mewnwr.
“Felly mae’r tactegau hyn yn fy siomi i o weld chwaraewyr creadigol y tu ôl, ond byddai rhai yn dadlau bo nhw wedi chwarae i’w cryfderau nhw ac maen nhw wedi ennill y gyfres. Ond fel cyfanwaith, ges i fy siomi gyda steil ac arddull ac athroniaeth y Springboks.”
Pennod nesa’r Llewod
Yn union fel Cwpan y Byd, fe fydd rhai aros pedair blynedd eto am daith nesa’r Llewod, a honno i Awstralia.
Ond un dyn sy’n annhebygol o fod yno, yn nhyb Cennydd Davies, yw’r prif hyfforddwr Warren Gatland, sydd wedi bod ynghlwm wrth y Llewod ers 2009, fel is-hyfforddwr y tro cyntaf ac fel prif hyfforddwr bob tro ers hynny.
Fe guron nhw Awstralia yn 2013, daeth y gyfres yn erbyn Seland Newydd i ben yn gyfartal bedair blynedd yn ddiweddarach, ac eleni oedd y tro cyntaf iddo golli cyfres. Dyna fydd ei waddol, yn ôl Cennydd Davies sydd, serch hynny, yn dadlau bod rygbi wedi symud ymlaen lle efallai nad yw Gatland wedi gallu symud gyda hi.
“Mae e’n dal yn glynu i’r un athroniaeth, a doedd yr athroniaeth yna ddim yn ddigon i guro De Affrica. Felly na, dwi ddim yn disgwyl gweld Warren Gatland nôl. Bydd e’n gyfle i rywun arall. Pwy fydd hynny, pwy a ŵyr? Mae yna lot o amser i fynd cyn Awstralia yn 2025.”