Bydd Jack Shore, yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg (MMA – mixed martial arts) o Gymru, yn gwneud ei bedwerydd ymddangosiad yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship) pan fydd yn ymladd yn erbyn Said Nurmagomedov o Rwsia yn Las Vegas ar Fedi 4.
Dydi’r gŵr 26 oed o Abertyleri erioed wedi colli, gyda record o 4-0 yn yr UFC a 15-0 ar y cyfan.
Mae’n ymladdwr proffesiynol ers 2016, ac roedd yn arfer bod yn bencampwr pwysau bantam yr hyrwyddwyr Cage Warriors.
Sicrhaodd fuddugoliaeth dros Hunter Azure yn ei ornest ddiwethaf ym mis Ebrill.
Fe yw’r pedwerydd Cymro i ymladd yn yr UFC, ar ôl Brett Johns, John Phillips a Jack Marshman.
Mae Said Nurmagomedov wedi ymladd pedair gwaith yn yr UFC, gan ennill tair gwaith a cholli unwaith.
Trechodd Mark Striegl yn y rownd gyntaf y tro diwethaf iddo ymladd fis Hydref y llynedd.