Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e a’r tîm yn ymfalchïo yn y perfformiad a’r gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Sheffield United yn Stadiwm Swansea.com neithiwr (nos Sadwrn, Awst 14).

Dyma bwynt cynta’r tymor ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 yn Blackburn yng ngêm gynghrair gynta’r tymor yn y Bencampwriaeth yr wythnos ddiwethaf.

A dyma’r tro cyntaf i dorf sylweddol gael mynd i wylio gêm ers dechrau’r pandemig.

Daeth cyfleoedd gorau’r Elyrch drwy Joel Latibeaudiere a Jamal Lowe, tra bod Rhian Brewster, cyn-ymosodwr yr Elyrch a David McGoldrick wedi gwastraffu’r cyfleoedd gorau i’r ymwelwyr, sydd newydd ostwng o Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ôl Russell Martin, oedd heb nifer o chwaraewyr blaenllaw ar gyfer y gêm, mae gwell eto i ddod.

“Dw i’n falch gyda phwynt, dw i’n credu bod llawer o bethau positif i’w cymryd oddi wrthi,” meddai.

“Chwaraeodd y chwaraewyr yn y ffordd wnaethon ni ofyn iddyn nhw, ac fe wnaethon ni reoli am rannau helaeth o’r gêm.

“Dw i’n credu ein bod ni’n brin o’r ffitrwydd sydd ei angen arnom ni i wneud hynny dros 90 munud ar hyn o bryd, i gadw rheolaeth, ond fe wnaethon ni eu cyfyngu nhw i ychydig iawn.

“Doedden ni ddim wedi cael cymaint ag y bydden ni wedi’i hoffi yn y traean olaf ond, ar y cyfan, yn nhermau’r hyn mae’r chwaraewyr yn ei roi i ni – a’r hyn rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ei wneud – maen nhw’n gwneud yn wych.

“Maen nhw’n haeddu llawer o glod.

“Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn tîm heno sy’n mynd i fod i fyny yno, roedd ganddyn nhw chwaraewyr â llawer o brofiad o’r Uwch Gynghrair ac roedd gyda ni chwech o fois oedd yn 22 oed neu’n iau.”

Canmol yr amddiffyn

Mae Russell Martin wedi canmol tri chwaraewr yn y cefn yn benodol – Joel Latibeaudiere, Ryan Manning a Brandon Cooper.

Roedd Latibeaudiere wedi chwarae fel asgellwr cefn yn y ddwy gêm gyntaf, tra bod Manning yn y canol ochr yn ochr â Cooper, sydd wedi codi drwy rengoedd yr Elyrch.

“Roedd gyda ni Ryan Manning yn chwarae ei 90 munud cyntaf, felly rydyn ni’n falch iawn o’r hyn wnaethon nhw ei gyflawni a sut aethon nhw o’i chwmpas hi,” meddai’r rheolwr.

“Maen nhw i gyd yn cynhyrchu eiliadau pwysau ac yn rhoi rhywbeth i ni fel tîm, yn sicr.

“Dw i’n credu bod Joel Latibeaudiere wedi gwneud yn dda iawn mewn safle newydd yn y gemau diwethaf, ac ro’n i’n teimlo bod Ryan Manning yn rhagorol yn nhermau sut wnaeth e ymdopi a rheoli’r gêm.

“Mae Brandon Cooper yn haeddu cryn glod wrth chwarae mewn safle sy’n eithriadol o bwysig i ni.

“Mae’n gyfrifoldeb mawr ac mae e wedi ymdopi â hynny’n arbennig o dda o ystyried nad yw e’n gwbl ffit eto.

“Cafodd ei gêm gyntaf nos Fawrth, felly mae ymadfer a chwarae fel yna yn erbyn tîm â chymaint o brofiad a grym… dw i’n falch iawn o’r bois hynny.”