Roedd Mick McCarthy yn ddigon hapus â pherfformiad tîm pêl-droed Caerdydd wrth iddyn nhw guro Blackpool oddi cartref o 2-0.
Daeth y ddwy gôl yn yr ail hanner wrth i’r Adar Gleision gipio triphwynt cynta’r tymor yn erbyn tîm sydd newydd ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.
Ar ôl gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Barnsley yn eu gêm gyntaf, dechreuodd tîm McCarthy yn gryf, gydag Aden Flint, Ryan Giles a James Collins i gyd yn dod yn agos at sgorio yn yr hanner cyntaf.
Saith munud wedi’r egwyl, dangosodd yr Adar Gleision eu doniau ymosodol, wrth i Leandro Bacuna rwydo â’i ben oddi ar bàs Sean Morrison.
Wrth i Blackpool frwydro am bwynt, daeth ail gôl Caerdydd wrth i groesiad Giles ddarganfod yr eilydd Kieffer Moore bedair munud cyn y chwiban olaf.
‘Shifft arbennig’
“Gallwn i ofni ychydig bach am ambell beth, ond ar y cyfan, dydy hi ddim yn werth hynny,” meddai Mick McCarthy.
“Beth yw’r pwynt?
“Rydyn ni wedi rhoi shifft arbennig i mewn gyda’n gilydd ac mae’r rhain yn driphwynt mawr i ni.
“Ro’n i’n gwybod y byddai Blackpool yn gystadleuol, ac mae ganddyn nhw fomentwm o gael eu dyrchafu, felly roedd e bob amser yn mynd i fod yn ddiwrnod aodd.
“Mae’n wych cael dechrau da ac ro’n i’n credu ein bod ni’n haeddu’r canlyniad.
“Ro’n i’n meddwl bod James Collins yn wych – mae e jyst yn gweithio mor galed.
“Mae e wedi cwrso’r amddiffynwyr canol o gwmpas drwy’r dydd ac wedi’u bwlio nhw.
“Ro’n i’n gwybod y gallai dod â Kieffer ymlaen gydag ugain mynd i fynd wneud gwahniaeth, ac mae hynny wedi cael ei brofi.
“Mae e’n agor cyfleoedd i ni ac wir yn ei daflu ei hun o gwmpas.
“Roedd e wir yn haeddu ei gôl.”