Mae Michael Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud ei fod e’n fodlon â pherfformiad ei chwaraewyr ddoe (dydd Sadwrn, Awst 14), er iddyn nhwg golli o 2-1 oddi cartref ym Mansfield.
Rhwydodd George Maris ac Ollie Clarke i’r tîm cartref, gyda Robbie Willmott yn sgorio gôl yr Alltudion.
Enillodd Maris y bêl cyn tanio ergyd o 20 llathen, er y dylai’r golwr Joe Day fod wedi gwneud yn well â’i ymdrech i arbed yr ergyd ar ôl saith munud yn unig.
Ddwy funud yn ddiweddarach, arweiniodd camgymeriad amddiffynnol arall at Gasnewydd yn unioni’r sgôr, gyda’r bêl yn adlamu dros James Perch a Farrend Rawson i roi cyfle i Robbie Willmott.
Ar ôl 43 munud, sgoriodd Mansfield eu hail gôl wrth i Danny Johnson gynorthwyo Clarke, a hwnnw’n tanio ergyd o 15 llathen.
Pwysodd Casnewydd am gyfnodau yn yr ail hanner, ond doedd hynny ddim yn ddigon iddyn nhw ddarganfod y rhwyd am yr ail waith i gipio pwynt.
Amddiffyn gwael
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n eitha’ da yn erbyn tîm cryf Mansfield,” meddai Mike Flynn.
“Yn y pen draw, fe wnaeth ein hamddiffyn gwael gyda’r ddwy gôl roi’r pwyntiau iddyn nhw, gan fy mod i’n teimlo mai ni oedd y tîm gorau.
“Dechreuon ni fynd ychydig yn hir yn y 15 munud olaf, ac nid dyna fwriad fy eilyddion.
“Ro’n i eisiau iddyn nhw adeiladu a chael mwy o groesiadau i mewn i’r cwrt.
“Roedd Scott Bennett yn hollol wych heddiw.
“Cawson ni ambell anaf, felly roedd rhaid i ni newid pethau o gwmpas felly mae hynny wedi rhoi cryn hyder i fi o ran y ffordd wnaethon ni chwarae.
“Mae pobol wedi dod i mewn ac wedi gwneud yn arbennig o dda.
“Dim ond ail gêm y tymor yw hon, felly dw i ddim yn mynd i fynd dros ben llestri amdani.
“Mae hi wedi bod yn wythnos hir, ond mae’r bois wedi ymroi’n llwyr i fi.”