Mae tref Aberteifi wedi ffarwelio â Richard ‘Fflach’ Jones, un o frodyr y band Ail Symudiad, wrth i’w angladd gael ei gynnal yn y dref ddoe (dydd Sadwrn, Awst 14).

Daeth cadarnhad gan y teulu’n ddiweddar iddo farw heb yn wybod ei fod yn dioddef o ganser, ac fe ddaeth ei farwolaeth fis ar ôl i’w frawd Wyn farw, hefyd o ganser.

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ffurfio’r band Ail Symudiad a rhedeg cwmni recordio Fflach yn y dref.

Cafodd Richard Jones ei gladdu ym Mlaenffos wedi’r gwasanaeth preifat yng Nghapel y Bedyddwyr Aberteifi, ond cafodd trigolion y dref gyfle i dalu teyrnged wrth iddo wneud “un daith olaf” o gartre’r teulu.

Ail Symudiad – hanes y band

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Richard a Wyn Jones yn 1978.

Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn nhref Aberteifi.

Y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a’r Sex Pistols oedd prif ddylanwadau’r band, ond llwyddon nhw i greu eu sŵn unigryw eu hunain, gyda chaneuon megis Garej ParadwysTwristiaid yn y Dre a Geiriau ymysg y rhai mwyaf poblogaidd.

Fe wnaeth y band ryddhau cryn dipyn o recordiau.

Enillon nhw’r wobr am y prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen yn 1982.

Ac yn 2010, Ail Symudiad oedd enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP BBC Radio Cymru.

Cafodd is-label Fflach:tradd ei sefydlu yn 1997, gan roi sylw i gynhyrchu cerddoriaeth corau, artistiaid gwerin a bandiau pres.

Colli Richard Fflach – ffarwelio ag arwr arall yn Aberteifi

Mae tref Aberteifi yn ei galar eto, ar ôl colli trydydd eicon cerddorol mewn cyfnod byr
Ail Symudiad

Marw Richard Jones, Ail Symudiad: “Does dim modd siarad am un brawd heb y llall”

Huw Bebb

“Nifer o enwau mawr yn y sin roc yng Nghymru fydden ni ddim yn gwybod amdanyn nhw oni bai eu bod nhw wedi cael y cyfle cyntaf gan bois Fflach”