Mae tref Aberteifi yn ei galar eto, ar ôl colli trydydd eicon cerddorol mewn cyfnod byr. Yr wythnos ddiwethaf daeth y newyddion trist bod Richard Jones o stiwdio Fflach, cyd-sefydlydd y grŵp Ail Symudiad, wedi marw a hynny ychydig dros fis ar ôl ei frawd, y cynhyrchydd a’r cerddor Wyn Jones. Ychydig cyn hynny, bu farw prif leisydd Datblygu, yr enwog David R Edwards.