Ddwy flynedd yn ôl, fydda chi wedi cael maddeuant am beidio gwybod pwy oedd Dafydd Hedd.

Ond mae’r bachgen 18 mlwydd oed o Fethesda wedi sefydlu ei hun fel un o dalentau mwyaf gweithgar y Sîn Roc Gymraeg ac mae bellach yn enw cyfarwydd i’r rheiny sydd in the know.

Yn ddiweddar mae wedi rhyddhau EP newydd, Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd, sy’n ymateb i’r anawsterau a wynebodd pobol ifanc yn ystod y pandemig a heriau unigryw’r cyfnodau clo.