Fe fydd Llywodraeth Cymru yn talu mwy o sylw i dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio gan gyflogwyr i fonitro a gwylio eu gweithwyr.

Yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur mae un o bob pedwar o’r gweithwyr yng Nghymru yn dweud bod cynnydd yn y nifer sy’n cael eu monitro a’u gwylio yn eu gweithle ers cychwyn y pandemig.

Yn ystod ei chyfnod ym Mae Caerdydd mae Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, am “gychwyn sgwrs am hyn” meddai wrth gylchgrawn Golwg.