Cyfuno cerddoriaeth ac adrodd straeon yw’r syniad tu ôl i brosiect buddugol Brwydr y Bandiau eleni.

Mae cerddoriaeth rap yn ddylanwad mawr ar Hedydd Ioan, 18 oed, a phrosiect skylrk, gyda chymeriad skylrk yn edrych ar ochr dywyllach bywyd, ac ystyried effeithiau emosiynol a meddyliol hynny.

Ond heb y gerddoriaeth, mae rap yn farddoniaeth, meddai Hedydd, sy’n dod o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ac mae barddoniaeth Gymraeg yn ysbrydoliaeth i’r prosiect.

Cyhoeddwyd enillydd Brwydr y Bandiau Maes B 2021 neithiwr, gyda skylrk yn dod i’r brig ym marn y beirniaid, Ifan Davies ac Elan Evans.

Ond yn ôl Hedydd, “yr enillydd go iawn ydi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg”, a’r ffaith bod cymaint o artistiaid o safon dal eisiau perfformio a rhyddhau cerddoriaeth wedi cyfnod mor llwm.

Emosiynol

Esboniodd wrth golwg360 mai trio cyfuno’r diddordeb mewn cerddoriaeth ac adrodd straeon mae’r prosiect skylrk.

“Ond hefyd, yn fwy penodol, efo cymeriad Skylrk ei hun mae o’n trio edrych ar ochr hedonistic bywyd sy’n cael ei bortreadu mewn lot o gerddoriaeth rap o ran mynd i ochr mwy tywyll bywyd, a be ydi effeithiau hynny’n emosiynol ac yn feddyliol ar bobol,” meddai.

“Y prif [ddylanwadau] ydi rhai fel MF Doom, Datblygu, Kanye West a’r Cyrff. Mae lot o artistiaid Cymraeg hefyd, gweld Y Reu a Candelas yn perfformio’n fyw.

“Mae gweld cerddoriaeth byw fel yna wedi effeithio fi’n fawr.

“Mae’r dylanwad gan rap yn fawr iawn, ond hefyd mae’r dylanwad gan farddoniaeth yng Nghymru hefyd yn fawr,” ychwanegodd.

Cynghaneddu

Mae Hedydd yn fab i Angharad Tomos, yr awdures a’r ymgyrchydd iaith, a gyflwynodd Rala Rwdins i blant Cymru, a Ben Gregory, sy’n ymgyrchydd ar faterion Cymru ac America-Ladin.

“Roeddwn i’n arfer mynd i wersi cynghaneddu yn y Galeri cyn y pandemig, ac mae pobol fel Rhys Iorwerth [yn ddylanwad],” meddai Hedydd.

“Heb y gerddoriaeth, mae rap yn farddoniaeth. Mae’r ddau yna’n [dod] at ei gilydd.

“[Mae] dylanwadau’n dod gan lefydd sydd, efallai, ddim i wneud gyda geiriau – os ydi o’n gelf neu ffilmiau.

“Unrhyw un sy’n adrodd storïau’n dda, dw i’n ffan mawr ohono ac yn trio cymryd o’u gwaith nhw.”

“Sioc o ran safon”

Mae’n “anhygoel” cael perfformio eto ar ôl cyfnod heb gigs, meddai, gan gyfaddef fod ennill Brwydr y Bandiau’n “annisgwyl iawn”.

“Mae bod ar lwyfan, a chael yr elfen o allu perfformio fo ac yr elfen theatrical, mae cael hwnna’n ôl ar ôl bod mewn ystafell am flwyddyn yn ridiculously da,” pwysleisiodd.

Cyrhaeddodd deg o artistiaid y bandiau’r rhestr fer, gyda phedwar yn mynd trwodd i’r rownd derfynol – skylrk; Cai, sef prosiect Osian Cai o Ddyffryn Nantlle; Tiger Bay, band indi-roc o Gaerdydd; a Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan, grŵp o ddisgyblion o Ysgol Plasmawr yn y brifddinas.

“Roedd un o fy ffrindiau, Osian sy’n chwarae dan Cai yn y gystadleuaeth, roedd y ddau ohonon ni’n cytuno ac mewn sioc o ran safon yr artistiaid y flwyddyn yma.

“Yr enillydd go iawn ydi y sîn gerddoriaeth Gymraeg, mae cael artistiaid sydd dal isio perfformio a dal isio rhyddhau pethau o fewn Cymru yn wych ar ôl blwyddyn mor galed.”

Creadigol

Mae Hedydd yn gweithio fel prentis creadigol gyda’r Frân Wen, ac mae’r profiadau y mae e wedi’u cael wrth weld prosesau creadigol pobol eraill wedi’i ysbrydoli.

“Mae’r profiadau dw i wedi’u cael, a’r pethau dw i wedi’u dysgu drwy weld prosesau creadigol pobol eraill a’r gwaith sy’n mynd mewn i roi’r cynyrchiadau yma ar y llwyfan, wedi ysbrydoli fi a hefyd wedi dysgu gymaint i fi,” meddai.

Mae’r trac yr oedd skylrk yn ei ganu ar Frwydr y Bandiau, Dall, wedi cael ei ryddhau heddiw, ac mae ganddo gynlluniau i ddechrau perfformio’n fuan.

Hedydd sy’n gyfrifol am ysgrifennu a chynhyrchu’r prosiect, ac mae traciau eraill yn cael eu datblygu ganddo ar hyn o bryd, ond esboniodd bod ganddo dîm o ffrindiau sy’n helpu drwy gymysgu’r caneuon, rhoi eu barn, a helpu gyda’r delweddau.

Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn creu, a llynedd, enillodd wobr Gwneuthurwr Ffilm Ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau’r Cinemagic 2020 Young Filmmaker yn Belfast.