“Nofelig” sy’n dilyn hynt mam a merch yn teithio Cymru mewn fan VW gipiodd y Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod AmGen neithiwr (5 Awst).

Dim ond dau gymeriad sydd yn Y Stori Orau, esboniodd Lleucu Roberts, a’r daith i ymweld â mannau penodol megis Cilmeri yw canolbwynt y stori.

“Dyma awdur sy’n feistr ar gyfleu perthynas cymeriadau â’i gilydd,” meddai’r beirniad, Elfyn Pritchard, ac mae’r berthynas rhwng Swyn, sydd yn ei hugeiniau cynnar, a’i mam yn ganolog i’r stori.

Mae’r nofel yn “wahanol iawn” i Hannah-Jane, nofel Lleucu Roberts a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen, a’r syniad tu ôl iddi’n “llawer symlach”.

“Nofelig fyswn i’n ei galw hi’n hytrach na nofel, o bosib, achos dau gymeriad sydd ynddi – mam a merch, a dim ond nhw’i dwy, mewn gwirionedd, sydd ynddi, a’u taith nhw rownd mannau penodol o Gymru mewn hen fan VW,” eglurodd Lleucu Roberts wrth golwg360.

Perthynas

“Mae’r ffocws yn reit dynn ynddi, yn wahanol i’r nofel arall lle’r oedd honno’n dipyn mwy eang a dipyn mwy o gymeriadau ynddi.

“Dyna pam, o bosib, dw i’n dweud mai nofelig ydi hi yn hytrach na nofel.

“Y daith yma ydi canol y peth, a’u perthynas nhw.

“Ers roedd ei merch hi’n ifanc iawn, mae’r fam, wrth reswm, yn dweud lot o straeon wrthi, ac mae yna storis yn cael eu dweud yn fan hyn.

“Mae’r straeon mae’r fam yn eu dweud, yn aml iawn, yn adlewyrchiad o gymeriad y ferch a’u perthynas nhw’i dwy.”

‘Symlach’

Ar ôl ysgrifennu Hannah-Jane, sy’n trafod y syniad o golli cof gyda newidiadau gwleidyddol 2016 a Brexit yn gefndir iddi, roedd Lleucu Roberts yn awyddus i wneud rhywbeth “symlach”.

“Dw i ddim yn siŵr iawn o le ddaeth y syniad hwn yn benodol, ond roeddwn i wedi ’sgwennu’r nofel arall ac roedd honno reit eang a mwy o gymhlethdod ynddi fel nofel,” meddai.

“Roedd o’n apelio i wneud rhywbeth lawer, lawer symlach, a thuag at ei diwedd hi bod y peth yn llai cymhleth fel nofel.

“Mewn gwirionedd mae’r ddwy yn wahanol iawn i’w gilydd.

“Roedd o’n apelio i wneud rhywbeth tipyn gwahanol i’r llall, roedd e ryw dri mis cyn bod dyddiad cau’r Fedal Ryddiaith ac roeddwn i’n meddwl ‘Falle wnâi rhoi try arni’.

“Wrth gwrs, ar ôl bod wrthi’n eithaf hir efo’r llall, roeddwn i’n meddwl ‘Reit, rhywbeth hollol wahanol nawr, ac yn fyrrach a symlach felly’.

“Roedd [ennill] yn dipyn o sioc, doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl.”

“Mor ddiolchgar”

Llun gan Gyngor Llyfrau Cymru

Mae dyled Lleucu Roberts yn fawr i Meleri Wyn James, golygydd gwasg Y Lolfa, ac i’r arlunydd Efa Lois, meddai.

“Mi wnaeth Meleri Wyn James gymaint i wneud yn siŵr bod y ddwy yma’n gweld golau dydd, ac mae hi wedi gweithio arnyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf yma ac wedi bod yn help enfawr,” pwysleisiodd Lleucu Roberts.

“Hefyd mae yna luniau yn yr ail nofel gan Efa Lois, dw i mor falch o’r ffordd y mae hi wedi cyfleu’r [nofel].

“Mae yna 12 darlun ganddi hi yn rhan o’r nofel, ac mae hi wedi cyfleu’r nofel i’r dim.”

“Dw i mor ddiolchgar i’r ddwy ohonyn nhw.”

  • Fe fydd golwg360 yn cyhoeddi canlyniad seremoni’r Cadeirio heno (6 Awst), a bydd y seremoni’n dechrau am 8yh.

Lleucu Roberts yn ailadrodd ei champ gan gipio dwy wobr ryddiaith yr Eisteddfod eto

“Mae’r awdur yn gwybod yn union sut i drin geiriau a cheir cyffyrddiadau gogleisiol yn gymysg â sylwadau crafog am fywyd”