Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair yr Eisteddfod AmGen eleni, gydag awdl “arbennig” ar y testun ‘Deffro’.

Dyma’r eildro iddo ddod i’r brig yn y gystadleuaeth, gan iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999 am ei awdl ‘Pontydd’.

Mae’r “darlunio yn gyson gelfydd a chyffrous”, medd y beirniad am waith y bardd o Dregaron, a chaiff cyfres o nosau neu fachludoedd gormesol eu portreadu rhwng dwy wawr.

Tua dechrau’r awdl, ceir llinell “drawiadol” sy’n sôn am redwr yn cyrraedd copa mynydd Gwylwyr gan sefyll i syllu ar y wawr.

Gwawr wahanol sydd i’w chanfod erbyn diwedd y gerdd, un sy’n dynodi deffroad cenedlgarwch y Cymry.

Tair ymgais a gafwyd ar y gystadleuaeth eleni, ond roedd y tri beirniad, Jim Parc Nest, Guto Dafydd a Caryl Bryn, yn gytûn bod awdl ‘Gwyliwr’ yn cyrraedd safon teilyngdod.

“Celfydd a chyffrous”

Mae Gwenallt Llwyd Ifan yn derbyn Cadair a gafodd ei chynllunio a’i chreu gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas, am ei gamp.

Cafodd ei Gadeirio mewn seremoni, a oedd yn cynnwys rhai o aelodau’r Orsedd, yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd heno (6 Awst).

“Mae awdl Gwyliwr wedi ei chanu yn y wers rydd gynganeddol. Yn agos at agoriad yr awdl, wele linell drawiadol: ‘Un ar erchwyn hanes yn chwilio am awch eiliad.’ Sôn y mae am redwr wedi cyrraedd copa mynydd Gwylwyr, yn sefyll i syllu ar y wawr,” meddai Jim Parc Nest, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Erbyn diwedd y gerdd y mae’r un rhedwr yn canfod gwawr arall, y wawr sy’n dynodi deffroad cenedlgarwch y Cymry.

“Rhwng y ddwy wawr ceir cyfres o nosau neu fachludoedd gormesol, a’r darlunio yn gyson gelfydd a chyffrous.

“Fe dynnaf sylw yn fy meirniadaeth ysgrifenedig at un gwendid, sef y gorhoffedd o glystyru llinellau o gynganeddion sain, ynghyd â manylu ar y rheswm pam yr ystyriaf y gorddefnydd hwn yn wendid yn y wers rydd. Mae’n deg dweud nad yw Guto Dafydd o’r un farn â mi yn y cyswllt hwn, ac fe barchaf y farn honno.

“Ond y mae’r tri ohonom yn cytuno bod awdl Gwyliwr yn cyrraedd safon teilyngdod eleni,” pwysleisiodd.

“Oherwydd y cyfwng a orfodwyd arnom cyn i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 droi’n rhith, bydd y cadeirio hwn yn un hanesyddol. A gobeithio na welir mo’i debyg.

“Ond gobeithiwn hefyd y bydd gwefr y cadeirio mor wefreiddiol ag erioed i’r bardd buddugol, oherwydd haeddiant yr awdl arbennig hon ar y testun ‘Deffro’.

“Mae nifer yr ymgeiswyr yn siomedig, ond yr hyn sy’n ein llawenhau yw teilyngdod yr un sy’n ennill. A chofier bod sawl Cadair yn y gorffennol wedi’u hennill pan oedd ond un o’r ymgeiswyr yn deilwng. Cadeirier ‘Gwyliwr’.”

Gwenallt Llwyd Ifan

Yn wreiddiol o Dregaron, bu Gwenallt Llwyd Ifan yn athro a phennaeth bioleg mewn ysgolion yn y gogledd am rai blynyddoedd, a thra’n byw yn Ninbych, mynychodd ddosbarthiadau cynganeddu John Glyn Jones.

Mae e wedi ennill nifer o gadeiriau, gan gynnwys Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddegawd wedyn, enillodd dlws coffa John Glyn Jones, ei hen athro barddol, am englyn y dydd gorau’r wythnos.

Yn ogystal â bod yn gapten ar dîm Talwrn y Beirdd Tal-y-bont, mae’n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Ceredigion.

Yn 2009, cafodd ei benodi’n bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth, ac yn dilyn ei ymddeoliad o’r swydd yn 2018, daeth yn hyfforddwr athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae nifer o’i gerddi wedi’u cyhoeddi mewn gwahanol gyhoeddiadau a chasgliadau, a chafodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, DNA, ei chyhoeddi eleni.

Ei ddiddordeb mawr arall yw pysgota â phlu, ac mae e wedi cynrychioli Cymru ar lynnoedd ac afonydd ledled yr ynysoedd hyn a thros y môr nifer o weithiau.

Bu’n bencampwr rhyngwladol Prydain ac Iwerddon ar ddau achlysur, ac mae’n rhedwr brwd sy’n hoff o redeg ar hyd lwybrau ardal Tal-y-bont.

Mae’n briod gyda Delyth, ac mae ganddyn nhw ddau o blant, Elis ac Esther.

Y Gadair

Cafodd y Gadair ei chreu yng ngweithdy’r Eisteddfod yn Llanybydder eleni, gan y crefftwr Tony Thomas.

Onnen yw’r Gadair, ac mae’n bren hyblyg a chryf iawn. Noddir y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd Tony Thomas ei ysbrydoli gan Gerrig yr Orsedd, ac mae llafnau o bren yn codi o amgylch y sedd, yn union fel Cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod.

Mae’r cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno’n cofleidio’r enillydd wrth iddo gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant yn plethu drwy’r cynllun.

Bydd beirniadaeth lawn y Gadair, a holl gystadlaethau cyfansoddi eraill yr Eisteddfod, i’w gweld yn y Cyfansoddiadau a’r Beirniadaethau a fydd ar werth fory, 7 Awst.