Y gantores Mared yw ennillydd Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am ei halbwm ‘Y Drefn’ ar label I KA CHING Records.

Cyhoeddwyd hyn ar BBC Radio Cymru neithiwr gan Siân Eleri ac Ifan Davies, fel rhan o weithgareddau Eisteddfod AmGen eleni.

Mae ‘Y Drefn’ – albwm unigol gyntaf Mared – yn gymysgedd o sawl arddull gwahanol, gydag agweddau o jazz, gwerin a pop yn cymysgu i greu albwm prydferth sy’n rhoi llwyfan i lais unigryw’r gantores o Lannefydd, Conwy.

Mae’n record deimladwy ac emosiynol sy’n cydio’r gwrandäwr o linell leisiol gyntaf Mared yn ‘Y Reddf’ i ddiweddglo epig ‘Dal ar y Teimlad’.

Fel gymaint o albymau eraill recordiwyd yn Stiwdio Sain, Llandwrog, mae’r albwm yma yn hawlio ei le mewn unrhyw gasgliad, gyda Mared a’i llais yn serennu yng nghanol y cyfan.

‘Sbesial’

Meddai Mared: “Mae ‘nghalon i’n llawn! Diolch gymaint am wneud fy mlwyddyn i fil gwaith gwell!  Mae’r albwm yma’n golygu’r byd i fi, felly mae cal ymateb fel hyn yn hollol sbesial. Diolch am yr holl gefnogaeth dwi ‘di gael a diolch yn enwedig i I KA CHING, Branwen, Osian ac Ifan am fod y tîm neisia’ yn y byd!”

Ychwanegodd Branwen Haf Williams ar ran label I KA CHING: “Does ‘na ‘run cerddor ‘dw i wedi gweithio â nhw mor ddiffuant o dalentog, mor anhygoel o gynhyrchiol ac mor, mor weithgar â Mared Williams. Mae hi’n haeddu pob tamed o sylw sy’n dod i’w rhan, ac mae’r wobr yma’n gydnabyddiaeth hollol deilwng o un o berlau’r sîn gerddoriaeth ar y funud.”

Y 10 albwm ar y rhestr fer oedd:

·       Carw – Maske

·       Carwyn Ellis & Rio 18 – Mas

·       Cwtsh – Gyda’n Gilydd

·       Datblygu – Cwm Gwagle

·       Elfed Saunders Jones – Gadewaist

·       Jac Da Trippa – Kim Chong Hon

·       Mared – Y Drefn

·       Mr – Feiral

·       Mr Phormula – Tiwns

·       Tomos Williams – Cwmwl Tystion

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Ry’n ni wrth ein boddau bod Mared wedi ennill y wobr hyfryd hon eleni.  Dechreuodd ei gyrfa’n cystadlu ar ein llwyfan ni, ac mae’n wych dilyn ei llwyddiant dros y blynyddoedd.  Roedd yn bleser ei chroesawu hi’n ôl i’r Eisteddfod yr wythnos yma, fel rhan o’r Eisteddfod Gudd a Gig y Pafiliwn.  Ry’n ni’n dymuno pob  llwyddiant iddi yn y dyfodol.”

Mae Mared yn derbyn tlws arbennig sydd wedi’i gynllunio a’i greu gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod.  Fel nifer o weithiau eraill Tony, gan gynnwys y llythrennau mawr sy’n sillafu’r gair ‘Eisteddfod’, mae tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i greu allan o un o hen greiriau’r Eisteddfod.  Y tro hwn, mae Tony wedi defnyddio cog oddi ar hen jac codi baw a ddefnyddiwyd gan yr Eisteddfod nôl yn Eisteddfod Bro Madog, 1987 er mwyn cynrychioli record fel rhan o’r Tlws unigryw hwn.

Gwyliwch Mared yn perfformio yng nghyngerdd yr Eisteddfod Gudd am 20:00 nos Sadwrn ar S4C, a gellir gwylio Gig y Pafiliwn ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru ac ar y sianel YouTube.